Mae data Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2011 yn dangos bod yna fwy na 47,000 o ofalwyr di-dâl sy'n hysbys ledled Gorllewin Cymru, ac roedd 3,436 ohonynt yn Ofalwyr Ifanc (a ddiffinnir fel 5-17 oed), sy'n cynrychioli 12.5% o breswylwyr. Cydnabyddir hefyd fod yna nifer sylweddol o ofalwyr 'cudd' nad ydynt yn diffinio eu hunain felly.

Mae adnabod gofalwyr di-dâl yn gynnar a hunan-adnabod ymysg gofalwyr di-dâl yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r cymorth cywir ar yr adeg gywir, yn ogystal â chynnal eu hiechyd, eu llesiant a'u hannibyniaeth eu hunain.

Caiff cymorth i ofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru ei yrru drwy Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG), is-grŵp ffurfiol o Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru a phartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, y tri Awdurdod Lleol sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, sefydliadau'r Trydydd Sector a'r Sector Gwirfoddol a chynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a Gofalwyr yng Ngorllewin Cymru.

Cyhoeddodd y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol ei Strategaeth Gofalwyr ym mis Tachwedd 2020 Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru WWCDG 2020-2025. Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) yn gyfrifol am sicrhau bod cynllun gweithredu blynyddol ar waith i ymateb i'r meysydd blaenoriaeth allweddol.

  • Mae Sir Gâr (7.3%) a Sir Benfro (7.4%) uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (6.9%) o bobl sy’n darparu gofal di-dâl rhwng 1 a 19 awr yr wythnos. Mae Ceredigion (6.9%) islaw’r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Mae Sir Gâr (1.9%) uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (1.8%) o bobl sy’n darparu gofal di-dâl rhwng 20 a 49 awr yr wythnos. Mae Sir Benfro (1.7%) a Cheredigion (1.5%) islaw’r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Mae Sir Gâr (3.9%) uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (3.4%) o bobl sy’n darparu gofal di-dâl am 50 awr neu fwy yr wythnos. Mae Sir Benfro (3.3%) a Cheredigion (2.9%) islaw’r cyfartaledd cenedlaethol.

Dengys y data diweddaraf (2018) fod 59 asesiad o angen am gymorth i ofalwyr ifanc wedi’u cynnal yn Sir Gâr yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 2018, yr arweiniodd 53 ohonynt at gynllun cymorth. Cynhaliwyd 13 asesiad o angen am gymorth i ofalwyr ifanc yng Ngheredigion, yr arweiniodd dau ohonynt at gynllun cymorth a chynhaliwyd 11 asesiad o angen am gymorth i ofalwyr ifanc yn Sir Benfro, yr arweiniodd chwech ohonynt at gynllun gofal.

Ym mis Ionawr 2020, ymgysylltodd Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru â gofalwyr di-dâl, gyda chyfraniad gan sefydliadau cymorth perthnasol, i ddarganfod 'beth oedd yn bwysig iddynt’. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgysylltu yn bennaf trwy gyfrwng arolwg, gyda'r nod o wella canlyniadau i ofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru.

Rhestrir rhai o ganlyniadau'r arolwg isod:

  • Dim ond 38% o'r rhai atebodd arolwg Gofalwyr Gorllewin Cymru ddywedodd iddynt adnabod eu rôl yn syth, neu o fewn 6 mis i ddod yn Ofalwr; roedd 49% yn cytuno eu bod wedi colli allan ar gefnogaeth o ganlyniad
  • Nododd 26% o'r rhai a atebodd arolwg Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) eu bod mewn cyflogaeth, ac roedd 91% ohonynt yn 35-64 oed
  • Roedd y sawl atebodd yr arolwg yn y grŵp oedran 35-44 yn teimlo bod eu rôl fel Gofalwr wedi cael effaith negyddol arnynt yn ariannol ac o ran eu gwaith, eu hiechyd corfforol a meddyliol, a'u perthnasoedd
  • Dywedodd 64% o bobl fod gofalu wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol eu hunain
  • Dim ond un o bob pump o'r rhai wnaeth ateb arolwg Gofalwyr Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru a ddywedodd eu bod wedi cael sgwrs gyda sefydliad iechyd, sefydliad gofal cymdeithasol neu sefydliad trydydd sector am beth i'w wneud os yw cyflwr y person maent yn gofalu amdano yn dirywio neu os nad ydynt bellach yn fodlon darparu gofal ar gyfer y person
  • Rydym wedi dysgu bod rhai pethau'n bwysicach i bobl ifanc - neu'n cael mwy o effaith arnynt; mae hyn yn golygu bod angen i ni gynllunio camau gweithredu sy'n ystyried anghenion gwahanol gofalwyr di-dâl ar draws y gwahanol grwpiau oedran.

Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd o'r ymarfer ymgysylltu i ddatblygu strategaeth hirdymor ar gyfer gofalwyr di-dâl o'r enw "Gwella bywydau i Ofalwyr".

1. Gwaith presennol a mentrau pwysig yn Rhanbarth Gorllewin Cymru

Mae modd bwrw golwg ar ddadansoddiad llawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngorllewin Cymru o dan arweiniad Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) mewn adroddiadau blynyddol a luniwyd gan y grŵp. Mae’r adroddiadau blynyddol hyn yn rhoi manylion llawn am yr holl gamau a’r rhaglenni a gyflawnwyd drwy’r rhaglen gofalwyr gan WWCDG:

2. Gwasanaethau cymorth presennol

Mae ystod o wasanaethau cymorth a gofal ar gael ar draws y rhanbarth i gefnogi gofalwyr. Mae rhai gwasanaethau yn cael eu comisiynu yn unigol gan gyrff statudol a chaiff eraill eu comisiynu ar y cyd ar sail sirol neu ranbarthol. Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn darparu fforwm allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng y cyrff comisiynu ac yn sicrhau cydweithio ar ddatblygu cynlluniau ar gyfer defnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru, e.e. Cronfa Gofal Integredig a grantiau Gofalwyr.

Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru (WWCDG) wedi gallu cydlynu sawl darn pwysig o waith, gan gynnwys:

  • Darparu mynediad i ofalwyr ifanc at wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr a'u galluogi i hysbysu archfarchnadoedd, fferyllfeydd, athrawon ac eraill bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu
  • Parhau i gyflwyno'r Cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr, gan gynyddu ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol o anghenion gofalwyr ar draws sectorau gan gynnwys gofal iechyd sylfaenol, cymunedol ac acíwt, ysgolion, llyfrgelloedd, gofal cymdeithasol, y Ganolfan Byd Gwaith a sefydliadau'r trydydd sector. Mae dros 120 o leoliadau yn cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd ac mae llawer mwy yn gweithio tuag at hynny. Mae'r cynllun hefyd yn galluogi pobl i gofrestru fel gofalwr gyda'u meddyg teulu, gan arwain at atgyfeiriad i'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr lleol a all ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ychwanegol
  • Defnyddio Swyddogion Gofalwyr (a gyflogir gan y trydydd sector) mewn ysbytai i gynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol i nodi gofalwyr di-dâl, gwella'r rhan y maent yn ei chwarae yn y broses ryddhau a darparu gwybodaeth a chymorth
  • Parhau i gyflwyno'r rhaglen Cyflwyniad i Ofalu Amdanaf i (I2LAM) ar gyfer gofalwyr ledled Gorllewin Cymru, gan helpu gofalwyr i ddysgu sgiliau newydd a gofalu am eu hiechyd eu hunain wrth ofalu am rywun arall
  • Cyflwyno'r Rhaglen Cydnerthedd a Llesiant Gofalwyr, gan roi sgwrs 'beth sy'n bwysig' i ofalwyr a chymorth priodol gan gynnwys ymyriadau ataliol a seibiant
  • Sefydlu'r Gronfa Arloesi Cymorth i Ofalwyr ranbarthol sy'n cynnig cyllid tymor byr i sefydliadau'r trydydd sector er mwyn iddynt ddarparu cymorth i ofalwyr. Mae'r mentrau a gefnogir yn cynnwys sesiynau ffitrwydd corfforol, digwyddiadau hel atgofion chwaraeon, sesiynau crefft a chymdeithasol ar-lein a chymorth wedi'i dargedu i ofalwyr hŷn
  • Cyflwyno'r cynllun Cyflogwyr i Ofalwyr (EfC) yng Ngorllewin Cymru gan sicrhau bod partneriaid statudol a thrydydd sector yn cael mynediad i ystod o adnoddau. Mae hyn wedi galluogi sefydliadau i adolygu polisïau a gweithdrefnau trwy lygad gofalwyr a chynnig cymorth ymarferol i weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy gyflwyno pasbortau gofalwyr a rhwydweithiau staff
  • Amrywiol fentrau cynhwysiant digidol i gynorthwyo gofalwyr yn ystod y pandemig, gan gynnwys Partneriaethau Cysylltiadau Digidol Sir Benfro sy'n cynorthwyo pobl, gan gynnwys gofalwyr, i gael mynediad at gyfarpar digidol a thechnoleg.

3. Cymorth a Gwasanaethau Gofal

Yn ogystal â’r rhaglenni gwaith sy'n cael eu cynnal dan raglenni grant Llywodraeth Cymru a ariennir gan WWDCG, mae hefyd nifer o wasanaethau cymorth a gofal ar gael i ofalwyr sy’n cael eu comisiynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac awdurdodau lleol. Gellir rhannu’r rhain yn fras yn wasanaethau sy’n cefnogi:

  • Adnabod a chydnabod
  • Cyngor a gwybodaeth
  • Asesiad o anghenion gofalwyr
  • Cymorth ymarferol (er enghraifft gofal amgen, help o amgylch y cartref, siopa)
  • Eiriolaeth
  • Cefnogaeth sy'n benodol i gyflwr ar gyfer y gofalwr a'r person y mae'n gofalu amdano.

4. Awdurdod Lleol a Chymuned

Yn ogystal â'r cymorth a'r gwasanaethau iechyd arbenigol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae awdurdodau lleol yn darparu sawl mecanwaith cymorth arall:

  • Gwasanaethau cyffredinol - Er enghraifft, canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, cyfleoedd addysg oedolion er y cydnabyddir nad yw'r gwasanaethau hyn eto'n darparu mynediad cyfartal cyson i bobl ag anableddau dysgu
  • Gwasanaethau atal - mae cyllid grant y Cyngor yn cefnogi twf gwasanaethau cymunedol eraill sy'n cael eu cyd-gynhyrchu ag aelodau cymunedau gan alluogi pobl i adeiladu ar eu cryfderau a'u hadnoddau unigol eu hunain. Mae'r rhain yn cynnwys cynlluniau cymydog da, clybiau cinio, mentrau cymunedol, gwasanaethau cymunedol/gwirfoddol
  • Cyfleoedd Dydd - Darparu cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol, lleihau unigedd ac unigrwydd, cynnal a / neu adfer annibyniaeth, cynnig gweithgareddau sy'n darparu ysgogiad meddyliol a chorfforol, darparu gwasanaethau gofal, cynnig cymorth lefel isel i bobl sy'n wynebu risg
  • Darpariaeth gofal seibiant - Mae seibiant byr/seibiannau yn ymrwymiad allweddol i gydnabod bod seibiannau wedi'u cynllunio yn rhan hanfodol o gefnogi teuluoedd
  • Gwasanaethau a Gomisiynir - Trefniadau byw â chymorth a gomisiynir yn unigol sy'n galluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw yn eu tenantiaethau eu hunain gyda chymorth ar lefelau amrywiol, a gwasanaethau preswyl sy'n cynnwys darparu llety a gofal ar y safle, lle mae gofal ar gael 24 awr y dydd. Caiff gwasanaethau eiriolaeth eu comisiynu ar draws y rhanbarth;
  • Taliadau Uniongyrchol - Mae'r modd hwn o dalu yn darparu ffordd arall i unigolion gael mynediad at ystod o gyfleoedd trwy allu dewis pwy sy'n darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.

5. Ymateb i'r Pandemig COVID-19

Yng Ngorllewin Cymru, mae'r awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector wedi ymateb yn dda iawn i'r Pandemig Covid-19 gan addasu eu gwasanaethau yn gyflym ac, mewn rhai achosion, symud eu gweithgareddau ar-lein.

Er enghraifft, gan nad oedd modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, llwyddodd grŵp Gofalwyr Trefdraeth yn Sir Benfro i gynnal cyfarfodydd ar-lein dros Zoom, gyda chymorth Cysylltydd Cymunedol. O ganlyniad, roedd yn haws i Ofalwyr ar draws y Sir fod yn rhan o’r grŵp Gofalwyr, gan ddenu Gofalwyr newydd a oedd yn chwilio am gymorth gan gyfoedion ar-lein.

Enghraifft arall yw Uned Gofalwyr Ceredigion a ddarparodd raglen lawn o weithdai, hyfforddiant a thrafodaethau am hawliau Gofalwyr dros chwe mis olaf 2020-21.

Mae pob gwasanaeth Gofalwyr Ifanc wedi parhau i weithredu ac addasu ei ffyrdd o weithio, gan ddefnyddio Zoom, WhatsApp a Microsoft Teams.

Mae cyswllt rheolaidd wedi'i gynnal gyda Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd i fynd i'r afael â materion.

Mae pob gwasanaeth wedi gweld dirywiad yn iechyd meddwl pobl ifanc a rhieni dros y flwyddyn ac mae gwasanaethau wedi ymateb drwy gynnig cymorth priodol.

Mae'r Bylchau a'r Meysydd i'w gwella yn gynhwysfawr ac yn adlewyrchu'r gwaith ymgysylltu a wnaed i ddatblygu Strategaeth Gwella Bywydau i Ofalwyr Gorllewin Cymru a gyhoeddwyd yn 2021.

Effaith bod yn ofalwr ar lesiant ac iechyd meddwl

Gall bod yn ofalwr di-dâl, er ei fod yn rhoi ysgogiad a boddhad, eu gadael yn teimlo:

  • Wedi blino, yn ynysig ac angen cymorth emosiynol a chwnsela
  • Yn pryderu ynghylch baich ariannol bod yn ofalwr di-dâl ac effaith hyn ar eu cyflogaeth
  • Maent wedi colli'r gallu i gynnal cydbwysedd rhwng y rôl o ofalu a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Maent wedi colli eu hunaniaeth y tu hwnt i fod yn ofalwr
  • Nid yw eu 'llais' yn cael ei gydnabod yn ddigon da
  • Datgelodd arolwg Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru fod 75% o'r cyn-ofalwyr di-dâl a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo bod effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a'u llesiant meddyliol o ganlyniad i'w rôl o ofalu.

Cefnogi anghenion gofalwyr

Mae hunan-adnabod ymysg gofalwyr di-dâl a chael cydnabyddiaeth o'u rôl gan ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn hanfodol i sicrhau eu bod yn cael yr help a'r cymorth cywir ar yr adeg iawn, yn ogystal â chynnal eu hiechyd, eu llesiant a'u hannibyniaeth eu hunain. Dywed gofalwyr di-dâl:

  • Dylid sicrhau gwelliant o ran cysondeb y dull gweithredu, y wybodaeth, y cyngor a'r cymorth a ddarperir ar draws y rhanbarth, o fewn system fwy integredig
  • Mae angen adolygu'r wybodaeth a ddarperir i ofalwyr i sicrhau ei bod yn gyfredol, yn berthnasol, yn fwy hygyrch ac yn haws dod o hyd iddi. Byddai cael un pwynt cyswllt i lywio'r system yn helpu pobl i nodi gwybodaeth berthnasol a chael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddi.
  • Dylai mynediad at seibiant priodol sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag anghenion y gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal Mae'r anodd iawn dod o hyd iddo mewn ardaloedd gwledig
  • Mae'r anodd iawn dod o hyd iddo mewn ardaloedd gwledig
  • Y gall y broses statudol o asesu gofalwyr fod yn heriol, yn aml mae'n cymryd gormod o amser ac nid yw anghenion gofalwyr bob amser yn cael ystyriaeth briodol. Er cydnabod nad yw pob gofalwr di-dâl angen neu eisiau asesiad gofalwr statudol, mae'n bwysig bod y rheiny sydd angen neu eisiau hyn yn gwybod sut i wneud cais a bod unrhyw ddeilliannau yn cael eu hadolygu i adlewyrchu newid mewn anghenion neu amgylchiadau
  • Mae'r ymateb i arolwg Gofalwyr Grŵp Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru yn dangos nad oedd 81% o bobl wedi cael asesiad Gofalwr neu adolygiad o'u hasesiad yn y 12 mis diwethaf
  • O'r rhai a gafodd asesiad neu adolygiad yn ystod y cyfnod pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, roedd 62% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn teimlo nad oedd y broses asesu a'r ystyriaeth ddilynol o'r anghenion gofal a chymorth yn ystyried eu hanghenion yn briodol.

Cynhwysiant Digidol a Thechnoleg

Mae cysylltedd digidol wedi dod yn fwy pwysig nag erioed ers pandemig Covid-19. Digwyddiadau ymgysylltu a nodwyd:

  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio technoleg ond nid yw pawb. Rhaid ymdrechu i sicrhau bod technoleg ar gael i bawb a bod cynhwysiant digidol (a hyfforddiant) yn ogystal ag opsiynau eraill nad ydynt yn rhai digidol yn cael eu cynnig
  • Gellid gwneud gwell defnydd o sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn nodi a darparu gwybodaeth i ofalwyr, yn enwedig i ofalwyr ifanc
  • Byddai modd defnyddio technoleg er mwyn ei gwneud hi'n haws i staff cynorthwyol gadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r gofalwr i sicrhau nad yw'r gwaith yn ei lethu.

Pobl Ifanc

Dywedodd llawer o ofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc fod eu cyfrifoldebau gofalu yn golygu:

  • Eu bod yn ei chael hi'n anodd cael seibiant, nid ydynt yn gweld eu ffrindiau ac nid oes ganddynt eu lle eu hunain
  • Maent yn ei chael yn anodd cydbwyso gwaith ysgol, gwaith cartref a'u rôl o ofalu a gallant deimlo dan straen, yn ofidus ac yn bryderus yn yr ysgol, gan eu bod i ffwrdd o'r person sy'n dibynnu arnynt am ofal
  • Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt yn enwedig ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Yn ystod y pandemig COVID-19 mae rôl gofalwyr di-dâl wedi dod yn fwy amlwg. Mae profiad y cyfyngiadau symud yn ystod y pandemig COVID-19, a'r angen i ddiogelu pobl sydd mewn mwy o berygl, wedi amlygu ymhellach y rôl bwysig sydd gan y gofalwyr di-dâl hynny yn ein cymunedau [6].

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi mynd ati i gefnogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad at brofion COVID ac, yn fwy diweddar, nodi gofalwyr di-dâl trwy gyfrwng gwiriadau cymhwysedd er mwyn iddynt gael brechiadau COVID-19. Arweiniodd hyn at fod dros 3,000 o ofalwyr di-dâl yn hunan-adnabod rhwng mis Ebrill a mis Mai 2021, nad oeddent wedi cofrestru'n flaenorol fel gofalwyr di-dâl gyda'u practis meddyg teulu [9].

Fel rhan o gamau gweithredu'r Bwrdd Iechyd i wneud i bob cyswllt gyfrif, darparodd Tîm Gofalwyr y Bwrdd Iechyd wybodaeth ddilynol i bob gofalwr newydd ei adnabod gan gynnwys gwybodaeth am wasanaethau cymorth y trydydd sector a'r cyrsiau Cyflwyniad i Ofalu Amdanaf Fi a ddarperir gan y Rhaglen Addysg i Gleifion.

Mae llawer o ofalwyr di-dâl wedi teimlo'n gynyddol ynysig oherwydd pandemig COVID-19. Roedd rhai o'r pryderon a fynegwyd mewn digwyddiadau ymgysylltu a'r adborth a gafwyd o arolwg ar-lein a ddosbarthwyd fel rhan o'r broses i ddatblygu'r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Roedd llawer ohonynt yn ochelgar iawn o bobl yn dod i mewn i'w cartrefi oherwydd y risg o drosglwyddo'r feirws, gyda llawer yn dewis atal gofal cartref. Roedd hyn yn eu hynysu fwyfwy ac yn rhoi straen pellach ar eu llesiant a'u hiechyd meddwl
  • Roedd llawer yn profi pwysau ariannol, gan eu bod yn gorfod cymryd mwy o amser i ffwrdd o'r gwaith i gefnogi'r person yr oeddent yn gofalu amdano
  • Roedd y lleihad mewn gofal seibiant oedd ar gael wrth i gartrefi gofal gau eu drysau i gleientiaid newydd yn eu hynysu fwyfwy ac yn rhoi straen pellach ar eu llesiant a'u hiechyd meddwl
  • Roedd llawer yn pryderu am yr effaith andwyol ar lesiant eu hanwyliaid, oherwydd y cyfyngiadau llym ar ymweld mewn ysbytai a chartrefi gofal
  • Collodd gofalwyr ifanc yr egwyl o ofalu a'r rhyngweithio cymdeithasol â chyfoedion yr oedd bod yn yr ysgol (a ataliwyd yn ystod y cyfyngiadau symud) fel arfer yn eu darparu
  • Mewn rhai achosion, adroddodd gofalwyr di-dâl eu bod yn gallu cael mwy o gymorth oherwydd bod mwy o wasanaethau ar gael ar-lein mewn ymateb i'r pandemig.