Proffil poblogaeth Gorllewin Cymru

Mae rhanbarth Gorllewin Cymru’n cynnwys tair ardal ALl – Sir Gâr, Ceredigion a Sir Penfro – ac yn cyffinio ag ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Amcangyfrifir mai 384,000 yw poblogaeth y rhanbarth (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, 2016). Mae’n cynnwys chwarter o dir Cymru a hi yw’r ardal bwrdd iechyd deneuaf ei phoblogaeth ond un yng Nghymru. Mae 47.9% o’r boblogaeth yn byw yn Sir Gaerfyrddin, 20.7% yng Ngheredigion a 31.4% yn Sir Benfro.
 

Mae amcanestyniadau poblogaeth cyfredol yn awgrymu y bydd cyfanswm poblogaeth gorllewin Cymru yn cynyddu i 425,400 erbyn 2033, ac y bydd nifer y bobl hŷn na 65 oed yn codi o 88,200 yn 2013 i 127,700 erbyn 2033. Mae’r amcangyfrifon hyn wedi’u seilio ar dybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae’r cynnydd yn nifer y bobl hŷn yn debygol o achosi cynnydd mewn cyflyrau cronig fel clefydau cylchrediad y gwaed, clefydau resbiradol a mathau o ganser. Bydd diwallu anghenion yr unigolion hyn yn her allweddol i’r Bwrdd Iechyd. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r cynnydd cymharol (ac absoliwt) yn y poblogaethau fydd yn ddibynnol yn economaidd, ac mewn rhai achosion yn ddibynnol o ran gofal, yn peri heriau penodol i gymunedau.