Anableddau iechyd a chorfforo

Sylwch: Diweddarwyd y data yn “demograffeg a thueddiadau” yn ddiweddar i baratoi am ddiweddariad yr asesiad poblogaeth a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Caiff gweddill y dudalen hon ei ddiweddaru ar ôl i’r asesiad poblogaeth gael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.

Trosolwg a negeseuon allweddol

Ni fydd cyfran sylweddol o’r bobl yn y grŵp oedran hwn yn cael gofal a chymorth yn uniongyrchol i ddiwallu anghenion penodol. Fodd bynnag, byddant yn cael budd o wybodaeth a rhaglenni cyffredinol ym maes iechyd y cyhoedd sydd â’r nod o hybu ffyrdd iach o fyw a lleihau risgiau i’w hiechyd a achosir gan ffactorau fel smygu a gordewdra. Yn fwy cyffredinol, bydd oedolion yng Nghymru hefyd yn cael budd o ddulliau cyfun ar draws sectorau ac mewn cymunedau i wella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Lle mae gan bobl yn yr ystod oedran hwn anghenion penodol oherwydd anabledd corfforol neu gyflyrau iechyd cronig, mae’n bosibl y bydd angen gofal a chymorth cymesur, ymatebol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’w helpu i gyflawni canlyniadau personol cadarnhaol ac i fyw mor annibynnol ag sy’n bosibl.

Gall amrywiaeth o ‘ffactorau cyflymu’ yn amgylcheddau pobl ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn datblygu cyflwr iechyd parhaus, neu waethygu effeithiau cyflyrau sy’n bodoli eisoes, ac y dylid cymryd camau lliniaru yn eu herbyn. Mae’r rhain yn cynnwys diweithdra, cyflogau isel ac amodau tai gwael.

Dylai gwaith effeithiol i hybu iechyd y cyhoedd, gofal a chymorth targededig i’r rheiny sydd ag anghenion penodol a chymorth mwy cyffredinol i bobl sydd mewn perygl arbennig gyfuno i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posibl i bobl a’u cyfranogiad yn eu cymunedau.

Bydd cynorthwyo pobl i fyw bywydau iach ac egnïol yn lleihau eu hanghenion am ofal a chymorth ac yn arwain at well canlyniadau i unigolion a chymunedau. Rhaid i gyfraniad gwasanaethau gofal a chymorth gael ei gydategu gan amrywiaeth o ddulliau cydweithredol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl.

Mae rôl bwysig gan Iechyd y Cyhoedd wrth roi gwybodaeth a chyngor cyffredinol i’r boblogaeth am ddewisiadau iach mewn bywyd a chymorth mewn meysydd fel diet a rhoi’r gorau i smygu. Mae angen i hyn ddechrau yn y blynyddoedd cynnar ond dylid ei gynnal lle bo modd ar draws yr holl grwpiau oedran.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Demograffeg a thueddiadau

  • Mae mwy na 22,000 o bobl sydd â hawl i dderbyn Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae mwy na 10,000 o bobl sydd â hawl i dderbyn Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae mwy na 13,500 o bobl sydd â hawl i dderbyn Lwfans Gweini (AA) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Ar hyn o bryd mae 217,689 o bobl rhwng 18 a 64 oed yn rhanbarth Gorllewin Cymru. Mae hyn yn hafal â thua 69% o’r boblogaeth oedolion ar draws y rhanbarth, gyda chyfran ychydig yn is yn Sir Benfro ar 68%, nag yn Sir Gâr a Cheredigion, ar 70% (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2019).
  • Nid oes gan 5.5% o bobl rhwng 16 a 64 oed yng Ngheredigion wres canolog, 3.5% yn Sir Benfro a 2% yn Sir Gâr (StatsWales).
  • Awgrymodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 36.9%, 27.6% a 25.3% o oedolion yn actif am lai na 30 munud yr wythnos yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion, yn y drefn honno.
  • Yn Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion amcangyfrifwyd bod 25.0%, 21.7% a 23.3% o bobl wedi bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau y diwrnod cyn yr arolwg, yn y drefn honno.
  • Roedd 5.8% o oedolion yn Sir Benfro yn ddefnyddwyr e-sigarennau, 6.7% yn Sir Gâr a 4.2% yng Ngheredigion.

Y ddarpariaeth gofal a chymorth bresennol

Mae amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ar gael i oedolion i’w helpu i fyw bywydau iach a bodlon; er bod llawer iawn o gyfrifoldeb am hyn ar yr unigolyn ac mae cyfrifoldeb am wasanaethau a chymorth yn ymestyn ymhell y tu hwnt i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r gwasanaethau cyffredinol sydd ar gael i hybu hunan-ofal a llesiant yn cynnwys:
  • Gwasanaethau ac amwynderau cyffredinol yn y gymuned
  • Gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar gan gynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • Darpariaeth y trydydd sector gan gynnwys amrywiaeth fawr o gyfleusterau sy’n cynnwys trafnidiaeth, gweithgareddau cymdeithasol, cymorth yn y cartref gyda gorchwylion domestig megis rheoli materion ariannol, garddio a glanhau, a gwahanol grwpiau cymorth targededig megis cymorth i ofalwyr; a
  • Gwasanaethau hamdden, y gellir eu defnyddio lle bo’n briodol trwy’r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) sy’n bodoli ar draws y rhanbarth.

I’r rheiny sydd â chyflyrau cronig a hirdymor ac anableddau corfforol, darperir amrywiaeth o wasanaethau:
  • Rheoli cyflyrau cronig trwy nyrsys ardal ac arbenigol
  • Cymorth gan wasanaethau cymdeithasol mewn lleoliadau preswyl ac yn y gymuned
  • Cymorth yn y gymuned i leihau risg gwaethygu a hybu annibyniaeth
  • Cymorth lefel uchel trwy ddarparu technoleg gynorthwyol, cyfarpar, addasiadau, taliadau uniongyrchol a gofal cartref; a
  • Gwasanaethau eiriolaeth i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am sut y gellir diwallu eu hanghenion ac i gynorthwyo ag annibyniaeth neu ei gwella.

Bylchau a meysydd i’w gwella

Er y rhagwelir y bydd gostyngiad yn nifer y bobl yn y grŵp thematig hwn yn y tymor canolig, a bod nifer y bobl sydd ag anghenion penodol o ran gofal a chymorth yn fach, mae’n hanfodol i ddarpariaeth briodol fodoli er mwyn hybu llesiant ac annibyniaeth ac atal cynyddu’r angen. Mae’r bylchau a meysydd i’w gwella canlynol wedi’u canfod a chânt eu nodi isod yn erbyn egwyddorion craidd y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant:
 
  • Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis Cymru ac Infoengine, a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd
  • Datblygu gwasanaethau rhanbarthol cyson, integredig, sy’n hygyrch ac yn ymateb i anghenion y boblogaeth
  • Gwneud yn well o ran adnabod, trin a rheoli cyflyrau y mae modd eu hatal a chyflyrau cronig yn cynnwys diabetes, clefyd y galon ac anhwylderau anadlol, i wella lles tymor hir a lleihau cymhlethdodau
  • Sicrhau bod ymyriadau a llwybrau effeithiol er mwyn atal, trin a rheoli gordewdra a gordewdra mewn plentyndod ar gael fel mater o drefn, a’u bod yn cael eu gweithredu’n systematig
  • Gwneud yn well o ran adnabod a thrin ffactorau risg yn gysylltiedig ag anghydraddoldeb iechyd
  • Cryfhau’r trefniadau pontio rhwng y gwasanaethau plant a phobl ifanc a’r gwasanaethau oedolion
  • Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn helpu pobl i fod yn gryfach ac i reoli’u cyflyrau eu hunain
  • Cynyddu’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol, megis teleofal, i drawsnewid gofal cartref a gwasanaethau byw â chymorth
  • Gwella’r hyblygrwydd i gyflenwi darpariaeth ‘camu i fyny’ a ‘chamu i lawr’ mewn ymateb i newidiadau mewn anghenion