Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi lansio eu cynllun newydd sef Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau (cyffuriau ac alcohol) 2019 - 2022. Mae'r cynllun newydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod oes strategaeth 2008-2018 ac mae'n gyfeiriad allweddol ar gyfer yr Asesiad Poblogaeth.

  • Dengys data fod y gyfradd camddefnyddio alcohol yn 2018 yn 389 o unigolion am bob 100,000 o’r boblogaeth yng Ngheredigion, 276 o unigolion am bob 100,000 o’r boblogaeth yn Sir Gâr, a 243 o unigolion am bob 100,000 o’r boblogaeth yn Sir Benfro. Y gyfradd i Gymru gyfan oedd 245 am bob 100,000 o’r boblogaeth.
  • Dengys data fod y cyfraddau am bob 100,000 am gamddefnyddio cyffuriau yn 256 yng Ngheredigion, 215 yn Sir Gâr a Sir Benfro. Y gyfradd i Gymru gyfan yw 224.
  • Mae tystiolaeth i ddangos bod dynion yn debycach o yfed alcohol na menywod.
 

Ceir amrywiadau sylweddol rhwng yr awdurdodau lleol o ran cyfran yr achosion Plant mewn Angen lle mae camddefnyddio sylweddau gan riant yn ffactor. Mae’r ffigurau ar gyfer rhanbarth gorllewin Cymru yn is na chyfartaledd Cymru, a Cheredigion a Sir Benfro sydd â’r cyfrannau isaf yng Nghymru. Mae gan yr ardaloedd hyn wasanaethau Niwed Cudd a Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a all fod yn rheswm dros y ffigurau is..

Mae anghenion y gofal a'r gefnogaeth bresennol yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r canlyniadau poblogaeth canlynol:

  • Atal pobl rhag dechrau cymryd cyffuriau, a lleihau niwed alcohol drwy sicrhau bod y boblogaeth gyfan yn cael gwybod am risg a sgil effeithiau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Lleihau effaith y defnydd o gyffuriau ac alcohol ar iechyd a llesiant a diogelwch plant, pobl ifanc a theuluoedd
  • Cefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau er mwyn cyflawni bywyd o ansawdd da, ystyrlon ac i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r gymuned
  • Lleihau niwed cysylltiedig â iechyd oherwydd camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a gwneud cymunedau yn fwy diogel drwy fynd i'r afael â materion sydd wedi eu creu yn sgil camddefnyddio cyffuriau ac alcohol o fewn cymunedau.

Dull Ataliol ar gyfer y Boblogaeth Gyfan:

Nid oes ymgyrch a gydlynir yn lleol sy'n mynd i'r afael â dull ataliol ar gyfer y boblogaeth gyfan. Mae angen llunio negeseuon allweddol i ymateb i dueddiadau defnydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a dangos tystiolaeth o niwed.

Sgrinio ac Ymyriadau Byr mewn gofal sylfaenol:

Mae’r sylfaen dystiolaeth yn nodi’n glir y dylai hyn fod ar waith ar draws lleoliadau gofal sylfaenol ar gyfer pob claf neu o leiaf y rhai sy’n wynebu risg. Ar hyn o bryd nid oes rhaglen sgrinio gydlynol ar waith o fewn gofal sylfaenol.

Triniaeth ac Adfer Mynediad, modelau triniaeth, priodoldeb o ran oedran i dderbyn triniaeth:

Dengys tystiolaeth fod defnyddwyr sylweddau hŷn (40/50 a hŷn yn gyndyn o geisio cymorth gan wasanaethau traddodiadol, oherwydd y model darparu gwasanaeth a phryderon ynghylch stigma wrth gael mynediad at wasanaeth cyffuriau ac alcohol. Mae angen i ni feddwl yn wahanol am ba wasanaethau sy'n cael eu cynnig (nid ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unig), ar draws y system iechyd ac mewn gwahanol leoliadau, er mwyn osgoi’r stigma hwn.

Seicoleg a chymorth seicolegol

I oedolion hŷn â phroblemau dibyniaeth ar alcohol.

Seicoleg Diagnosis Deuol / cymorth seicolegol:

Bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer y rhai nad oes ganddynt Salwch Meddwl Difrifol ond sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl sylweddol eraill yn ogystal â phroblemau gyda chyffuriau, alcohol, ac ymddygiadau ffordd o fyw eraill.

Rhagnodi Capasiti:

Mae mynediad cyflym at ragnodi yn ffactor amddiffynnol yn erbyn marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae modelau rhagnodi un diwrnod ar waith mewn rhannau eraill o'r wlad, ac mae amseroedd hirach ar waith yn lleol a Sir Gaerfyrddin yw'r sir yw’r trydydd uchaf o ran marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru. Mae model lleol yn dibynnu ar gapasiti meddygon teulu o ran rhagnodi.

Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau:

Cyfranogiad da gan wasanaethau lleol ond ychydig iawn o gyfranogiad gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn y broses gynllunio.

Dysgu a Gweithredu o ran Lleihau Niwed:

Mae angen adolygiad o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ogystal â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ac mae angen i ni sefydlu adolygiadau o farwolaethau nad ydynt yn angheuol.

Tai:

Yn hanfodol i allu unigolyn i wella. Dim ond hyn a hyn o ddewis sydd ar gael yn lleol ac mae polisïau ailddyrannu tai yn aml yn niweidiol i adferiad.

Dylai cynlluniau datblygu gwasanaethau yn y dyfodol, darpariaethau gofal a chymorth ac anghenion ganolbwyntio ar yr ymyriadau canlynol: 

  • Troi'r gornel a lleihau'r bwlch anghydraddoldebau o ran ysmygu drwy flaenoriaethu grwpiau penodol sydd mewn risg uchel o niwed cysylltiedig â thybaco. Mae grwpiau risg uchel yn cynnwys cleifion mewnol, pobl sydd ag afiechyd meddwl, pobl â chyflyrau sy'n waeth drwy ysmygu, pobl â salwch cysylltiedig ag ysmygu a menywod beichiog sy'n ysmygu
  • Cefnogi ysmygwyr beichiog i roi'r gorau iddi
  • Parhau i dargedu ymyriadau rhoi'r gorau i ysmygu yn yr ardaloedd hynny sydd â'r nifer uchaf o achosion o ysmygu
  • Defnyddio marchnata cymdeithasol i sicrhau'r cyrhaeddiad mwyaf posibl
  • Defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar asedau i weithio gyda chymunedau lleol i asesu rhwystrau a hwyluswyr i atal y nifer sy'n dechrau ysmygu a'i lleihau
  • Trin ysmygu ar bwynt diagnosis ar gyfer ystod eang o glefydau er mwyn gwella canlyniadau. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod ymdrechion rhoi'r gorau i ysmygu mewn lleoliadau gofal iechyd yn effeithiol gan fod ysmygwyr yn cael eu gor-gynrychioli ym mhoblogaeth pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG
  • Cefnogi datblygiad cymhorthion digidol neu electronig i roi'r gorau i ysbygu
  • Cefnogi datblygu modelau optio allan ar draws lleoliadau gofal eilaidd a mamolaeth
  • Cydweithio â phartneriaid i sicrhau bod y ddeddfwriaeth iechyd a llesiant cyhoeddus yn cael ei gweithredu'n llawn
  • Gweithio gyda phartneriaid (Awdurdod Lleol, Addysg, Tai, Gwasanaethau Brys) i leihau cysylltiad â mwg tybaco amgylcheddol drwy gefnogi deddfwriaeth di-fwg, rhoi cymaint o gyngor cryno â phosibl wrth gefnogi'r broses o roi'r gorau i ysmygu
  • Gwaith mewn partneriaeth i wella aliniad strategol polisi a gwasanaethau ar draws y continwwm iechyd a llesiant ar gyfer rheoli tybaco
  • Sicrhau bod gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu ar sail tystiolaeth ar gael i bawb sy'n ysmygu, gan gynnwys cyngor cryno, cefnogaeth ymddygiadol
  • Gweithredu argymhellion Fforwm Dyfodol y GIG sy'n pwysleisio gwerth cael 'sgyrsiau ffordd iach o fyw' opportunistaidd byr gan gynnwys codi'r mater o roi'r gorau i ysmygu. Mae darparu Cyngor Cryno Iawn i bob ysmygwr yn cael ei argymell gan yr Adran Iechyd yn effeithiol mewn lleoliadau gofal cyffredinol a gellir ei addasu i leoliadau iechyd meddwl
  • Cefnogi staff mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd sydd eisoes â'r sgiliau therapiwtig angenrheidiol i ennyn diddordeb cleifion mewn sgyrsiau am newid ymddygiad. Rydym yn gwybod bod cynnig cymorth i roi'r gorau i ysmygu, yn hytrach na gofyn i ysmygwr os oes ganddo ddiddordeb mewn stopio neu ddweud wrtho y dylai stopio, yn arwain at fwy o bobl yn gwneud ymgais i roi'r gorau iddi. Gellir codi materion ysmygu yn anffurfiol gyda chleifion, megis yn ystod amser ymgysylltu gwarchodedig; ar ddiwedd ymweliad cartref neu yn ystod ymweliadau clinigol. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i gysylltu'r ymyriadau byr hyn â phroblem iechyd cyfredol megis peswch, diffyg anadl neu rywbeth sydd o berthnasedd personol i'r claf
  • Cefnogi gweithredu dulliau lleihau niwed ar gyfer yr ysmygwyr hynny nad ydynt efallai'n gallu stopio mewn un cam (Canllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), 2013).

Efallai bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar grŵp camddefnyddio sylweddau, ond mae'r effaith hon yn parhau i fod yn anhysbys.