Sylwch: Diweddarwyd y data yn “demograffeg a thueddiadau” yn ddiweddar i baratoi am ddiweddariad yr asesiad poblogaeth a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Caiff gweddill y dudalen hon ei ddiweddaru ar ôl i’r asesiad poblogaeth gael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.

Trosolwg a negeseuon allweddol

  • Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl (2015), mewn unrhyw flwyddyn mae un o bob pedwar ohonom yn cael problem iechyd meddwl, ond nid yw tri chwarter y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael unrhyw driniaeth.
  • Bydd angen cymorth ar lawer ohonom mewn perthynas â’n hiechyd meddwl drwy gydol ein hoes boed cymorth dwysedd isel ar gyfer anawsterau fel gorbryder / iselder lefel isel neu gymorth mwy hirdymor.
  • Gall salwch meddwl ddatblygu o nifer o ffactorau gan gynnwys trawma cymdeithasol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a rhagdueddiad genetig. Nid yw salwch meddwl yn gwahaniaethu rhwng pobl a gall effeithio ar unrhyw un, gan arwain at gyflyrau andwyol iawn yn aml.
  • Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol a gall hyn fod ar ffurf darparu gwybodaeth neu atgyfeiriad at wasanaethau cymunedol neu drydydd sector. Gall derbyniadau i wasanaethau cleifion mewnol ddigwydd mewn sefyllfaoedd eithafol, lle na ellir trin yr unigolyn yn y gymuned a lle bo’n achosi perygl iddo ei hun a / neu i bobl eraill.
  • Amcangyfrifwyd mai £7 biliwn y flwyddyn yw costau economaidd a chymdeithasol problemau iechyd meddwl yng Nghymru (Cyhlarova, 2010).
  • Yn 2015-16, neilltuodd Llywodraeth Cymru £587 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru – mwy na’r £389 miliwn a neilltuwyd yn 2009-10. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Llywodraeth y bydd gwerth £15 miliwn o gyllid newydd ar gael i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru bob blwyddyn.

 

 

 

 

 

 

Demograffeg a thueddiadau

  • Dengys data cyfredol fod 6,192 o fenywod, a 3,616 o ddynion, yng Ngheredigion ar hyn o bryd sydd ag anhwylderau meddwl cyffredin. Erbyn 2043, dengys amcanestyniadau y bydd lleihad bach, gyda 5,868 o fenywod, a 3,243 o ddynion, yn byw gydag anhwylderau meddwl cyffredin. Yn Sir Benfro, dengys data fod 10,425 o fenywod, a 6,276 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin. Dengys amcanestyniadau presennol am 2043 fân godiad, gyda 10,492 o fenywod, a 6,384 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin. Yn Sir Gâr, ar hyn o bryd mae 15,845 o fenywod, a 9,498 o ddynion, ag anhwylderau meddwl cyffredin. Dengys amcanestyniadau presennol fân godiad erbyn 2043, a disgwylir y bydd 16,378 o fenywod, a 9,544 o ddynion ag anhwylderau meddwl cyffredin.
  • Dengys data fod 375 o fenywod a 1,058 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol yng Ngheredigion. Dengys amcanestyniadau leihad yn y niferoedd hyn erbyn 2043, gyda 342 o fenywod a 933 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol. Yn Sir Benfro, dengys data fod 571 o fenywod a 1,676 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, gydag amcanestyniadau’n dangos y bydd hyn yn lleihau erbyn 2043 i 533 o fenywod a 1,606 o ddynion. Yn Sir Gâr, mae 907 o fenywod a 2,551 o ddynion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, dengys amcanestyniadau y bydd hyn yn lleihau erbyn 2043 i 887 o fenywod a 2,487 o ddynion.
  • Dengys data fod 496 o fenywod a 558 o ddynion 16 oed a throsodd sydd ag anhwylder deubegynol yng Ngheredigion. Erbyn 2043 dengys data y bydd hyn yn lleihau i 451 o fenywod, a 490 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 779 o fenywod, ac 898 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Erbyn 2043, dengys data y gallai’r niferoedd hyn leihau ychydig, i 731 o fenywod, ac 871 o ddynion. Yn Sir Gâr, mae 1,224 o fenywod, a 1,372 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Dengys amcanestyniadau niferoedd tebyg erbyn 2043, gyda 1,202 o fenywod, a 1,347 o ddynion ag anhwylder deubegynol. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, mae anhwylder deubegynol yn effeithio’n fwy ar ddynion na menywod, ac eithrio yn y categorïau oedran 16-24 a 65-74.
  • DDengys data fod 643 o fenywod a 448 o ddynion yng Ngheredigion ar hyn o bryd ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Dengys amcanestyniadau hyd 2043 fod mân leihad yn cael ei ddisgwyl, i 602 o fenywod, a 414 o ddynion. Yn Sir Benfro, dengys data fod 898 o fenywod a 602 o ddynion ag anhwylder personoliaeth ffiniol ar hyn o bryd. Dengys amcanestyniadau 2043 fân leihad yn y ffigurau hyn, i 839 o fenywod a 600 o ddynion. Yn Sir Gâr, ar hyn o bryd mae 1,422 o fenywod, a 963 o ddynion, ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Dengys amcanestyniadau presennol fân newid, i 1,402 o fenywod a 944 o ddynion erbyn 2043. Ar draws rhanbarth Gorllewin Cymru, dengys y data fod yr anhwylder yn fwyaf cyffredin ymlith pobl 16-34 oed.
  • Dengys data fod 169 o fenywod, a 113 o ddynion ag anhwylderau seicotig yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Erbyn 2043, dengys amcanestyniadau presennol leihad bach yn y niferoedd hyn, i 154 o fenywod, a 94 o ddynion. Yn Sir Benfro, mae 297 o fenywod, a 205 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Dengys amcanestyniadau ychydig iawn o newid erbyn 2043, gyda 291 o fenywod, a 200 o ddynion, ag anhwylderau seicotig. Yn Sir Gâr ar hyn o bryd, mae 458 o fenywod a 304 o ddynion ag anhwylderau seicotig. Dengys amcanestyniadau ychydig iawn o newid, a disgwylir y bydd 461 o fenywod, a 306 o ddynion, ag anhwylderau seicotig yn 2043.
  • Mae 3,785 o bobl ar gofrestr iechyd meddwl y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau yn rhanbarth Gorllewin Cymru.

Bylchau a meysydd i’w datblygu

Mae’r Rhaglen Gweddnewid Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi datblygu cydweledigaeth ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl modern:
 
  • Gwella’r gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, darpariaeth amgen yn lle derbyn i’r ysbyty a mynediad at wasanaethau, yn enwedig i’r rhai sydd mewn argyfwng
  • Datblygu dull o ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a ‘risg-galluogi’ fel bod modd bod yn hyblyg
  • Gwella mynediad at gyngor a chymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, yn cynnwys hawliau lles ac ymwneud â gofal a thriniaeth
  • Datblygu mynediad uniongyrchol 24 awr at ddarpariaeth amgen i’r rhai mewn argyfwng, os nad eu derbyn i’r ysbyty yw’r opsiwn gorau
  • Gwella profiad defnyddwyr gwasanaethau a’r trefniadau cludo yng nghyswllt Ad136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, i’r rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu
  • Datblygu gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol wedi’u cydgynhyrchu i helpu pobl i fagu hyder a sgiliau rwy ddefnyddio cymorth gan gymheiriaid a/neu fentora
  • Datblygu gweithlu hyblyg ac ymatebol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu modelau newydd o wasanaeth iechyd meddwl
  • Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio