Y ddarpariaeth gofal a chymorth bresennol
Mae amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth yn bodoli ar draws y rhanbarth i gynorthwyo oedolion ag anabledd dysgu i fyw bywydau bodlon yn y gymuned. Er bod yr opsiynau penodol o ran gofal a chymorth yn amrywio ar draws y siroedd, mae’r ddarpariaeth bresennol yn cynnwys:
- Gwasanaethau cyffredinol Er enghraifft canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, cyfleoedd addysg i oedolion, er y cydnabyddir nad yw’r gwasanaethau hyn yn darparu mynediad cyfartal cyson eto i bobl ag anableddau dysgu
- Gwasanaethau ataliol Mae cyllid grant gan y cyngor yn cefnogi twf gwasanaethau cymunedol amgen sy’n cael eu cydgynhyrchu gydag aelodau o gymunedau gan alluogi pobl i adeiladu ar eu cryfderau ac adnoddau unigol eu hunain. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau cymdogion da, clybiau cinio, mentrau cymunedol, gwasanaethau cymunedol/gwirfoddol
- Ymyriadau iechyd arbenigol Mae seiciatreg ymgynghorol, seicoleg, nyrsio cymunedol, therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a ffisiotherapi yn darparu ymyriadau arbenigol i oedolion â diagnosis o anabledd dysgu, mewn lleoliadau cleifion mewnol a lleoliadau cymunedol
- Gwasanaeth Arbenigol Diagnostig Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig a Chwnsela cyn / ar ôl diagnosis Mae’r gwasanaeth presennol yn cynnwys sesiynau dynodedig gan feddyg ymgynghorol locwm ac ymarferydd arbenigol
- Cyfleoedd Dydd Darparu cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol, lleihau arwahanrwydd ac unigedd, cynnal a / neu adfer annibyniaeth, cynnig gweithgareddau sy’n darparu ysgogiad meddyliol a chorfforol, darparu gwasanaethau gofal, cynnig cymorth lefel isel i bobl sy’n wynebu risg
- Llwybrau i gyflogaeth Amrywiaeth o fentrau lleol gan gynnwys FRAME, Workways Plus, Ystad Stagbwll ac ESTEAM yn Sir Benfro a’r Tîm Cyfleoedd a ‘Camau’ yn Sir Gaerfyrddin. Hefyd mae rhaglenni cenedlaethol megis ‘Dewis Gwaith’, sy’n cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn cynorthwyo’r rheiny sydd ag anableddau dysgu lefel is
- Darpariaeth seibiant Mae gwyliau byr / seibiant yn ymrwymiad allweddol gan gydnabod bod seibiannau cynlluniedig yn rhan hanfodol o’r gwaith o gynorthwyo teuluoedd
- Gwasanaethau a gomisiynir Trefniadau byw â chymorth a gomisiynir yn unigol sy’n galluogi pobl ag anableddau dysgu i fyw yn eu tenantiaethau eu hunain gyda chymorth ar wahanol lefelau, a gwasanaethau preswyl sy’n cynnwys darparu llety a gofal ar y safle, lle mae gofal ar gael 24 awr y dydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaeth rhanbarthol Rhannu Bywydau a reolir i’r rhanbarth gan Gyngor Sir Gâr, sy’n darparu llwybr i bobl fynd yn ôl i’w cymunedau ac sy’n enghraifft o ddewis heblaw gwasanaethau preswyl traddodiadol. Comisiynir gwasanaethau eiriolaeth ar draws y rhanbarth; a
- Thaliadau Uniongyrchol Mae’r rhain yn darparu ffordd arall i unigolion achub ar amrywiaeth o gyfleoedd trwy allu dewis pwy sy’n darparu’r gwasanaethau mae eu hangen arnynt
Mae’r gwaith o asesu a chynllunio gofal i bobl ag anabledd dysgu’n cael ei reoli trwy Dimau Anabledd Dysgu Cymunedol amlddisgyblaethol, sy’n bodoli ar draws y rhanbarth ac yn cael eu staffio gan weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r timau hefyd yn cydweithio â Thimau Plant Anabl a Thimau Pontio, sy’n ymwneud o dro i dro o 14 oed ymlaen ac yn cynnal asesiad pan mae person ifanc sy’n cael gwasanaethau’n troi’n 17 oed. Mae Timau Pontio’n chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo â’r gwaith o drosglwyddo anghenion gofal rhwng y naill wasanaeth a’r llall, ac fel arfer rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion. Mae data a gedwir gan Uned Ddata Cymru’n dangos bod y ddibyniaeth ar ofal preswyl ym mhob un o’r tair sir yn uwch na chyfartaledd Cymru. Ar hyn o bryd mae Sir Benfro yn y trydydd safle, mae Ceredigion yn y chweched safle ac mae Sir Gaerfyrddin yn yr wythfed safle yng Nghymru o ran cyfran y bobl ag anabledd dysgu sy’n cael gofal a chymorth yn y ffordd hon.