Wrth i ddisgwyliad oes a mewnfudo gan bobl hŷn effeithio ar ganran y bobl hŷn yn y rhanbarth, disgwylir i nifer y bobl sy'n Byw gyda Dementia yng Ngorllewin Cymru gynyddu yn y degawdau nesaf.

Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (DAP) 2018 – 2022 yn nodi gweledigaeth glir i "Gymru fod yn genedl sy'n ystyriol o ddementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.”

Mae ein Strategaeth Dementia Ranbarthol ar gyfer Gorllewin Cymru yn cael ei chynhyrchu a bydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu llwybrau dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, wedi'u cynhyrchu ar y cyd â defnyddwyr a gofalwyr.

(bydd dolen yn cael ei chynnwys unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo).

Dyma'r negeseuon allweddol:

  • Nifer yr achosion o ddementia ar gofrestr clefydau'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella (QAIF) yn ardal Hywel Dda yn 2019-20 oedd 0.7%, yn unol â chyfartaledd cenedlaethol Cymru o 0.7%
  • Yn 2016-17 roedd y cyfraddau diagnosis o ddementia ymhlith yr isaf yng Nghymru sef 45.6%, a oedd yn dynodi bod y cyfraddau mynychder yn debygol o fod yn nes at 1.4%, er bod nifer y rheiny a gafodd ddiagnosis wedi cynyddu 3% y flwyddyn ar gyfartaledd i 2,947 yn 2020.
  • Nodwyd dros 30 o ffactorau genetig, meddygol, ffordd o fyw, diwylliannol a chymdeithasol, sy'n cael effaith wahanol ar y risg o ddirywiad gwybyddol yn dibynnu ar rywedd. Mae rhai o'r ffactorau hyn yn cynyddu risg yn sylweddol fwy mewn menywod nag mewn dynion.

Mae dementia ym mhobl ieuangach na 65 yn cael ei ddisgrifio fel dementia dechrau cynnar, neu ddementia oed gweithio. Mae wedi ei amcangyfrif bod 1 ym mhob 1,000 person yng Nghymru gyda dementia dechrau cynnar. Mae’r ffigwr hwn fymryn yn uwch yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac yn uwch eto yng Ngheredigion.

Gall symptomau dementia fod yn debyg beth bynnag fo oedran unigolyn, ond yn aml mae gan bobl iau anghenion gwahanol, ac felly mae angen cymorth gwahanol arnynt yn aml. Mae ystod eang o glefydau sy’n achosi dementia dechrau cynnar ac mae person iau’n llawer iawn mwy tebygol o fod â math prinnach o ddementia na pherson hŷn. Fodd bynnag, nid yw pobl iau na 65 oed fel arfer â’r un cyflyrau meddygol hirdymor sy’n cyd-fodoli ag a geir ymysg pobl hŷn. Er enghraifft, clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Fel arfer mae pobl iau yn fwy ffit yn gorfforol ac mae’n bosibl mai dementia yw’r unig gyflwr difrifol maent yn byw ag ef (Cymdeithas Clefyd Alzheimer, 2015). Mae’r siart ganlynol yn dangos niferoedd y bobl sydd â dementia dechrau cynnar yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Mae gan oedolion hŷn yn rhanbarth Gorllewin Cymru anghenion mwyfwy cymhleth. Yn ôl yr amcangyfrif mae 6,884 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru, 1,322 yng Ngheredigion, 2,358 yn Sir Benfro, a 3,204 yn Sir Gâr. Dengys amcanestyniadau y bydd 10,897 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru erbyn 2035, 1,993 yng Ngheredigion, 3,831 yn Sir Benfro, a 5,073 yn Sir Gâr.

Mae tystiolaeth ti awgrymu bod tua 7% o achosion dementia yng Nghymru yn ddementia dechrau cynnar, sy’n cael ei ategu gan amcangyfrifon eraill o 5%-9% o ddiagnoses dementia dechrau cynnar yn y DU.

Mae Strateggaeth Dementia Ranbarthol wedi'i chomisiynu ar y cyd ag ystod o bartneriaid eraill ledled Gorllewin Cymru. Nod y strategaeth ydy nodi anghenion gofal a chymorth presennol ac yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod y cymorth a ddarperir i bobl sy’n byw gyda dementia yng Ngorllewin Cymru yn cael ei gydgynhyrchu, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn seiliedig ar arfer gorau.

 


A woman comforting a man who has dementia


Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia (DAP) yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Cymru sy’n ystyriol o ddementia, a ddatblygwyd gyda’r rhai sy’n gwybod fwyaf am yr hyn sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau dementia sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – y rhai sydd â phrofiad o fyw â dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr a darparwyr gwasanaethau. O ganlyniad i’r safbwyntiau a fynegwyd mewn prosesau ymgynghori ac ymgysylltu, mae’r cynllun gweithredu wedi’i strwythuro o gylch canlyniadau sy’n dilyn dull llwybr gofal dementia i gynnwys y canlynol:

  • Lleihau risg ac oedi cyn cychwyn
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
  • Dysgu a datblygu
  • Cydnabod ac adnabod
  • Asesiad a diagnosis
  • Byw cystal â phosibl, cyhyd â phosibl gyda dementia
  • Gofal a chymorth ar gyfer anghenion cynyddol

Fel y cyfeiriwyd ym mhrif gorff y bennod, mae Strategaeth Dementia Ranbarthol wedi'i chomisiynu i gefnogi gweithredu arfer gorau yn unol â'r DAP. Er cydnabod y bydd y strategaeth hon yn hybu arloesedd ac integreiddio ac yn nodi bylchau a meysydd i’w gwella, mae ystod o wasanaethau sy’n cyd-fynd â nodau’r DAP ar gael ar hyn o bryd:

Lleihau risg ac oedi cyn cychwyn:

  • Delta Connect – gwasanaeth teleofal sy’n darparu asesiad llesiant unigol a chynllun aros yn iach unigol

Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth:

  • Menter ymbarél eang a arweinir gan y 3ydd sector – ymgyrch ‘Mae Gorllewin Cymru yn Garedig’ i gymell gweithredoedd caredigrwydd ar hap
  • Swyddog Datblygu Cymunedau Cefnogi Pobl â Dementia Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro

Dysgu a datblygiad:

  • Datblygu fframwaith hyfforddi dementia

Asesiad a diagnosis:

  • Gwasanaethau asesu cof

Byw cystal â phosibl, cyhyd â phosibl gyda dementia:

  • Timau Cymunedol Mynediad Cyflym ym mhob rhan o Orllewin Cymru sy'n darparu gwasanaeth amlddisgyblaethol i bobl yn eu cartrefi
  • Tîm Nyrsys Admiral
  • Taith drwy grwpiau cymorth dementia

Gofal a chymorth ar gyfer anghenion cynyddol:

  • Darpariaeth gofal seibiant
  • Tîm Cymunedol Llesiant Dementia
  • Darpariaeth Gwasanaeth Gofal Diwedd Oes gan gynnwys y canlynol:
    • Comisiynodd Paul Sartori a Marie Curie i ddarparu hyfforddiant Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw
    • Mae uwch nyrsys Marie Curie yn helpu pobl â dementia datblygedig i gael mynediad at wasanaethau gofal lliniarol a diwedd oes yn yr ysbyty, gartref ac mewn cartrefi gofal ar draws y rhanbarth
    • Mae sefydliad Paul Sartori yn darparu addysg i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys eu staff eu hunain ac eraill ar draws y bwrdd iechyd
    • Mae ymrwymiadau o'r DAP hefyd wedi'u cynnwys yn y strategaeth Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Ranbarthol sydd hefyd cael ei datblygu

Mae’r rhestr isod yn nodi bylchau a meysydd i’w gwella sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod ein proses ymgysylltu a’n gwaith cydgynhyrchu. Fodd bynnag, nid yw'r rhestr yn cynnwys popeth; wrth i'r strategaeth a'r llwybrau newydd gael eu datblygu, mae disgwyl y bydd bylchau pellach a meysydd i'w gwella yn cael eu nodi a bydd y strategaeth yn cael ei diwygio yn unol â hynny.

Mae’r bylchau a’r meysydd i’w gwella a nodwyd wedi amlinellu’r angen am y camau gweithredu a ganlyn:

  • Parhau i wella ymwybyddiaeth, adnabyddiaeth a diagnosis o ddementia, fel bod pobl â dementia yn cael diagnosis amserol ac yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth priodol a gofal hirdymor pan a lle bo angen
  • Gwella'r modd y caiff gwasanaethau eu cyd-gynhyrchu drwy gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia. Mae angen rhagor o waith cynllunio ar y cyd ar fodelau llwybr drafft, a hynny gyda darparwyr, staff rheng flaen, pobl sy'n byw gyda dementia a’u gofalwyr, y mae gan bob un ohonynt adnodd gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio’n fwy effeithiol yn y dyfodol i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion y rhai sydd eu hangen fwyaf.
  • Cytuno ar set o egwyddorion cyflawni i danategu datblygiad modelau llwybr
  • Gan adeiladu ar y fframwaith hyfforddi dementia, dylid adlewyrchu a mynd i’r afael â gofynion dysgu a datblygu’r rhai sy’n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia mewn cymunedau trwy strategaethau gweithlu sefydliadol, i gynnwys pynciau fel deliriwm, diagnosis, deall a rheoli straen a thrallod, diwedd oes.
  • Cynyddu cyfraddau diagnosis mewn lleoliadau cymunedol nad ydynt yn rhai arbenigol drwy:
    • Gwella hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o fodelau dementia newydd ym maes gofal sylfaenol, yn seiliedig ar y Fframwaith Gwaith Da
    • Cynorthwyo meddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a nyrsys i wneud asesiadau
  • Gwella ansawdd atgyfeiriadau i ofal arbenigol i'r rheiny sydd ei angen
  • Parhau i wella cymorth cymunedol, hyfforddiant a help i bobl sy'n byw gyda dementia i drafod eu diagnosis, llywio/cydlynu gwasanaethau, meithrin gwytnwch a chynnal cydbwysedd ar draws pob agwedd ar eu bywyd
  • Datblygu gofal mwy cyson sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws y rhanbarth.
  • Sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd corfforol a thriniaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, gan fod iechyd corfforol gwael yn sgil effaith anochel pan fo dementia ar rywun
  • Sicrhau bod unrhyw faterion iechyd yn cael eu cynnwys mewn cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a gofal diwedd oes
  • Gwelliannau parhaus mewn ymwybyddiaeth o gynllunio gofal ymlaen llaw a gofal diwedd oes a’u rhoi ar waith, fel bod pobl sy'n byw gyda dementia yn marw ag urddas yn y lle o’u dewis
  • Gwella ymchwil i ddementia trwy gynnwys cartrefi gofal yn y rhanbarth yn y cyfleoedd ymchwil presennol
  • Adeiladu ar ddata a gwybodaeth sy'n dod i'r amlwg i lywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol
  • Parhau i ddatblygu dull "hwb" neu un pwynt cyswllt er mwyn i bobl sy'n byw gyda dementia gael gafael ar wybodaeth a chymorth ar gyfer:
    • Staff cymorth, gan gynnwys gweithwyr cymorth dementia, nyrsys Admiral ac ati
    • Grwpiau cymorth ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u Gofalwyr
    • Mynediad at wasanaethau dementia lleol
    • Rhaglenni hyfforddi i ofalwyr
    • Gweithgareddau ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia
    • Caffis Dementia
    • Clinigau cof
    • Cyngor ynghylch cyllid/materion cyfreithiol/budd-daliadau
    • Cymryd rhan mewn cyfleoedd ymchwil

Mae Pandemig COVID-19 wedi cael effaith negyddol anghymesur ar bobl sy'n byw gyda dementia (Cymdeithas Alzheimer, Gorffennaf 2020) ac mae hefyd wedi cael ei brofi fod dementia yn ffactor risg sy'n annibynnol ar oedran o ran difrifoldeb a marwolaeth mewn cleifion COVID-19 [1].

Er nad yw union effaith COVID-19 ar ddiagnosis o ddementia a'r gyfradd achosion o ddementia yn glir, mae rhanddeiliaid wedi nodi bod COVID-19 wedi effeithio ar ddiagnosis amserol oherwydd bod pobl ddim yn mynd i weld rhywun yn ddigon cynnar.

Mae rhywfaint o bryder hefyd, mewn rhai achosion, bod COVID yn achosi niwed i’r ymennydd ac yn y tymor hir, y gallai hyn arwain at fwy o risg o ddatblygu dementia (How COVID-19 can damage the brain - BBC Future). Fodd bynnag, nid oes gwybodaeth lawn am effaith COVID-19 ar y rheiny sydd â dementia a'u gofalwyr ar gael eto.

Daeth i'r amlwg bod technoleg yn cyfrannu at wytnwch cleifion a gofalwyr yn ystod COVID. Mae gan y gallu i gyfathrebu fanteision o ran caniatáu i chi gynnal cysylltiad â grwpiau gweithgarwch blaenorol a hobïau [2]. Fodd bynnag, nid yw pob claf yn gallu addasu’n dda i ddefnyddio technoleg ac efallai y bydd angen i eraill sy’n bresennol eu cefnogi i ddefnyddio technoleg, oherwydd efallai na fyddant yn gallu gwneud hyn ar eu pen eu hunain oherwydd y dementia.

Cyfeiriadau:

  • [1] Tahira AC, Verjovski-Almeida S, Ferreira ST. Dementia is an ageindependent risk factor for severity and death in COVID-19 inpatients. Alzheimers Dement. 2021 Nov;17(11):1818-1831. doi: 10.1002/alz.12352. Epub 2021 Apr 21. PMID: 33881211; PMCID: PMC8250282.
  • [2] Hackett RA, Steptoe A, Cadar D, Fancourt D (2019) Social engagement before and after dementia diagnosis in the English Longitudinal Study of Ageing. PLoS ONE 14(8): e0220195.