Diwallu anghenion lleol

Wrth ddatblygu’r Cynllun, rydym wedi ceisio taro’r cydbwysedd iawn rhwng ffocws rhanbarthol a chyflawni lleol. Fel partneriaid rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl, lle bynnag yng Ngorllewin Cymru y maen nhw’n byw, yn gallu bod yn siŵr y cânt ofal a chymorth hyd at safon gyson, mewn modd di-dor. Caiff safonau gwasanaeth eu datblygu mewn partneriaeth â defnyddwyr, gofalwyr a darparwyr a byddant yn adlewyrchu’r ymarfer gorau yn ein rhanbarth ni, rhannau eraill o Gymru ac ymhellach. I sicrhau darbodion maint, byddwn yn dal i weithio’n rhanbarthol i sicrhau cynaliadwyedd yn ein marchnadoedd ac wrth gomisiynu a chyflenwi gwasanaethau arbenigol, megis y rhai i blant ag anghenion cymhleth.

Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd pob gwasanaeth yn edrych yn union yr un fath ym mhob ardal. Mae’r Asesiad Poblogaeth yn cydnabod amrywiaeth gyfoethog ein rhanbarth, sy’n cynnwys ardaloedd ôl-ddiwydiannol sydd ag amddifadedd cymdeithasol sylweddol, cymunedau gwledig a chymunedau arfordirol. Rhaid i’r ffordd y caiff gwasanaethau eu trefnu, eu hariannu, eu cyflenwi a’r ffordd y cyrchir atynt adlewyrchu anghenion neilltuol cymunedau o’r fath. Mae dull o’r fath yn gyson â nodau Cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaeth Gofal Sylfaenol i Gymru. Rydym felly yn ymrwymo yn y Cynllun i ddull gweithredu lleol, gan chwilio am gyfleoedd i integreiddio a chyfuno adnoddau ar y lefel isaf bosibl. Mae’r cyfuniad hwn o gysondeb rhanbarthol a chyflenwi lleol yn adlewyrchu argymhellion yr Adolygiad Seneddol a’r ethos sy’n sail i Raglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Nesaf