Cynllun Ardal

Sut ydym wedi strwythuro ein Cynllun Ardal

Adran 1: Trosolwg

Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am ofynion statudol mewn perthynas â chynhyrchu Cynlluniau Ardal, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a’i blaenoriaethau, a’n dull ar gyfer datblygu ein Cynllun.

Adran 2: Crynodeb o’r materion yn ôl grŵp poblogaeth

Mae’r adran hon yn crynhoi canfyddiadau allweddol yr Asesiad Poblogaeth mewn perthynas â gwahanol grwpiau poblogaeth a’r bylchau a’r meysdd gwella a nodwyd gennym. Ar gyfer pob un o’r rhain, rydym yn amlygu’r amcanion perthnasol yn ein Cynllun Cyflawni neu, lle bo’n briodol, cyfeirio at gynlluniau ar wahân sy’n mynd i’r afael â’r materion penodol hynny.

Adran 3: Cynllun cyflawni

Mae’r adran hon yn cynnwys amcanion lefel uchel yr eir i’r afael â nhw’n gydweithredol ar ran Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol dros y cyfnod i ddod. Lle bo’n bosibl, darperir dolenni i gynlluniau gweithredu manylach. Gall y cynlluniau manwl hyn newid dros amser a byddwn yn diweddaru ein Cynllun yn rheolaidd i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Lle nad oes cynlluniau manwl yn bodoli ar hyn o bryd, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael. Hefyd darperir amserlenni dangosol ar gyfer cyflawni ein hamcanion, gyda ‘tymor byr’ yn golygu amserlen o 1 i 2 flynedd a ‘tymor canolig’ yn golygu 3 i 5 mlynedd. Unwaith eto, gall yr amserlenni hyn gael eu haddasu dros amser a gellir adleisio unrhyw newidiadau wrth i’r Cynllun gael ei ddiweddaru.

Mae ein Cynllun Ardal hefyd ar gael fel dogfen PDF