Anghenion o ran gofal a chymorth yn y presennol a’r dyfodol
Mae atal, adnabod yn gynnar, cymorth ymarferol ac emosiynol a hygyrchedd gwasanaethau yn cael effaith gadarnhaol ym mhob categori nam ar y synhwyrau. Er na fydd ar lawer o bobl â nam ar y synhwyrau angen gofal a chymorth uniongyrchol i’w cyflwr, maent yn fwy tebygol na’r boblogaeth gyffredinol o ddioddef o iselder, gorbryder, unigedd, colli annibyniaeth ac arwahanrwydd, ynghyd â llai o gyfleoedd cyflogaeth a’r effaith ariannol yn sgil hynny. Gall cymorth lefel isel priodol chwarae rhan allweddol i liniaru effaith y rhain ac i wella llesiant cyffredinol y bobl sydd â’r cyflyrau hyn.