Sylwch: Diweddarwyd y data yn “demograffeg a thueddiadau” yn ddiweddar i baratoi am ddiweddariad yr asesiad poblogaeth a fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn nesaf. Caiff gweddill y dudalen hon ei ddiweddaru ar ôl i’r asesiad poblogaeth gael ei gyhoeddi ar 1 Ebrill 2022.

O ganlyniad i’r ffocws cynyddol ar gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia ledled rhanbarth y Gorllewin, mae adran bwrpasol ar gyfer dementia yn cael ei datblygu a bydd hon ar gael cyn bo hir.

Trosolwg a Negeseuon Allweddol

Mae cyfran uwch o bobl hŷn yng ngorllewin Cymru na chyfartaledd Cymru gyfan. Rhagwelir y bydd y gyfran uchel hon yn cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r disgwyliad oes cyfartalog yn y rhanbarth ddilyn y duedd genedlaethol ar i fyny (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011).

Yn ddiau bydd y newid ym mhroffil y boblogaeth yn cael effaith ar iechyd, gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol yn ystadegol o fod â chyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar fywyd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011). Bydd y newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir, gan fod y galw am wasanaethau ysbyty a gwasanaethau cymunedol oddi wrth bobl 75 oed a hŷn at ei gilydd fwy na theirgwaith y galw oddi wrth bobl rhwng 30 a 40 (Parliamentary Select Committee on Public Service and Demographic Change, 2013).

Mae nifer o ‘ffactorau cyflymu’ yn ychwanegu at her darparu gwasanaethau effeithiol i bobl hŷn yng ngorllewin Cymru, o ardaloedd bach o amddifadedd sylweddol i ardaloedd mawr gwledig a nifer fawr o bobl hŷn yn ymfudo i rai ardaloedd. (Henry, 2012).

Yn 2013-14 gwariwyd £91 miliwn ar amcangyfrif yng ngorllewin Cymru ar wasanaethau yn benodol i bobl hŷn gan gynnwys Haen 1 – Gwasanaethau Cymunedol, Cyffredinol ac Ataliol, Haen 2 – Ymyrraeth Gynnar ac Ailalluogi a Haen 3 – Gwasanaethau Arbenigol a Hirdymor. Ar draws y Deyrnas Unedig disgwylir i wariant cyhoeddus sy’n gysylltiedig â phobl hŷn godi o 20.1% o’r Cynnyrch Domestig Gros yn 2007-08 i 26.7% yn 2057. (Pwyllgor Cydweithredol Canolbarth a Gorllewin Cymru, 2015).

 

“public finances are likely to come under pressure, primarily as a result of an ageing population”

Y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (2011)

Demograffeg a Thueddiadau

Mae niferoedd cynyddol o bobl hŷn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r amcangyfrifon poblogaeth presennol am 2021 yn awgrymu bod pobl dros 65 oed sy’n byw yn rhanbarth Gorllewin Cymru yn cyfrif am ryw 24.1% o’r boblogaeth yn Sir Gâr, 26.2% yng Ngheredigion a 26.7% yn Sir Benfro. Disgwylir y bydd canran y boblogaeth sy’n 65 oed a throsodd yn codi i 29.53% yn Sir Gâr, 32.54% yng Ngheredigion a 33.4% yn Sir Benfro, erbyn 2043.

Gyda rhannau mawr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro’n wledig ac yn arfordirol, mae’r rhanbarth yn denu niferoedd uchel o fewnfudwyr dros 65 oed. Mae bron 22% o boblogaeth Cymru bellach yn bobl o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, gyda’r mwyafrif llethol yn ymddeol i fyw yno o Loegr (Bingham, 2014). Yn Sir Benfro y ceir y niferoedd mwyaf, gyda chyfradd mudo o 31%, ac 87% o’r rheiny dros 65 oed. Ceredigion sydd a'r ganran fwyaf o breswylwyr ag ail gartref yn y Deyrnas Unedig gyfan. Er y gellir esbonio hyn yn rhannol gan y boblogaeth fawr o fyfyrwyr, mae data’r cyfrifiad yn dangos bod gan 325 o bobl dros 65 oed yng Ngheredigion ail gyfeiriad y tu allan i’r sir. O’r un pwys, mae data’n dangos bod gan 1,182 o bensiynwyr ail gartrefi yng Ngheredigion: nid yw’r unigolion hyn wedi symud yn barhaol i’r ardal ond maent yn treulio cryn dipyn o’u hamser yno, ac efallai’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y cyfnodau hynny.

Dengys y data diweddaraf fod 7,409 o bobl wedi mudo i Sir Gâr rhwng Mehefin 2018 a Mehefin 2019, y mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 25-44. Mae 5,318 wedi mudo i Geredigion, gyda’r mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 16-24. Mudodd 4,779 i Sir Benfro, y mwyafrif ohonynt yn y grŵp oedran 25-44, er bod hyn yn cael ei ddilyn yn agos gan y grŵp oedran 45-64.

Mae dementia ym mhobl ieuangach na 65 yn cael ei ddisgrifio fel dementia dechrau cynnar, neu ddementia oed gweithio. Mae wedi ei amcangyfrif bod 1 ym mhob 1,000 person yng Nghymru gyda dementia dechrau cynnar. Mae’r ffigwr hwn fymryn yn uwch yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, ac yn uwch eto yng Ngheredigion.

Gall symptomau dementia fod yn debyg beth bynnag fo oedran unigolyn, ond yn aml mae gan bobl iau anghenion gwahanol, ac felly mae angen cymorth gwahanol arnynt yn aml. Mae ystod eang o glefydau sy’n achosi dementia dechrau cynnar ac mae person iau’n llawer iawn mwy tebygol o fod â math prinnach o ddementia na pherson hŷn. Fodd bynnag, nid yw pobl iau na 65 oed fel arfer â’r un cyflyrau meddygol hirdymor sy’n cyd-fodoli ag a geir ymysg pobl hŷn. Er enghraifft, clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Fel arfer mae pobl iau yn fwy ffit yn gorfforol ac mae’n bosibl mai dementia yw’r unig gyflwr difrifol maent yn byw ag ef (Cymdeithas Clefyd Alzheimer, 2015). Mae’r siart ganlynol yn dangos niferoedd y bobl sydd â dementia dechrau cynnar yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Chymru.

Mae gan oedolion hŷn yn rhanbarth Gorllewin Cymru anghenion mwyfwy cymhleth. Yn ôl yr amcangyfrif mae 6,884 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru, 1,322 yng Ngheredigion, 2,358 yn Sir Benfro, a 3,204 yn Sir Gâr. Dengys amcanestyniadau y bydd 10,897 o bobl dros 65 oed â dementia yng Ngorllewin Cymru erbyn 2035, 1,993 yng Ngheredigion, 3,831 yn Sir Benfro, a 5,073 yn Sir Gâr.

Mae tystiolaeth ti awgrymu bod tua 7% o achosion dementia yng Nghymru yn ddementia dechrau cynnar, sy’n cael ei ategu gan amcangyfrifon eraill o 5%-9% o ddiagnoses dementia dechrau cynnar yn y DU.

Anghenion o ran gofal a chymorth yn y presennol a’r dyfodol

Mae’r holl bartneriaid yn y rhanbarth yn symud tuag at fodel cyson o ofal i bobl hŷn, yn seiliedig ar egwyddorion llesiant ac atal sydd wedi’u crisialu yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, ac sy’n cael ei lywio’n lleol gan gynlluniau a strategaethau amrywiol gan gynnwys cynlluniau Heneiddio’n Dda, Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd, ‘Gweledigaeth Cyngor Sir Gâr ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Bobl Hŷn 2015-25’ a’r Datganiad o Fwriad rhanbarthol ar gyfer Integreiddio Gwasanaethau i Bobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth yng Ngorllewin Cymru (2014).

Mae manylion y ddarpariaeth yn amrywio ar draws y rhanbarth, ond ceir tair lefel o wasanaeth ym mhob sir a gellir eu disgrifio fel ‘cynigion’ i’r unigolion, yn ôl eu hangen a’u hamgylchiadau, fel a ganlyn:

  • Cynnig 1: Cymorth i helpu eich hun
  • Cynnig 2: Cymorth pan fydd ei angen arnoch
  • Cynnig 3: Cymorth parhaus

Bylchau a Meysydd i’w Gwella

Mae angen datblygiadau pellach mewn nifer o feysydd er mwyn mynd i’r afael yn llawn â gofynion y Ddeddf, gan gynnwys canlyniadau llesiant i bobl hŷn ac uchelgeisiau’r strategaethau presennol:
 
  • Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd
  • Gwella gofal rhagflaenol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a sectorau eraill fel nad yw anghenion yn dwysáu
  • Lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl a gofal nyrsio o blaid gwasanaethau ataliol a lles ar lefel is
  • Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n atal ynysu; hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned, lles a chryfder a helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn hirach yn eu cymunedau eu hunain
  • Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod pobl hŷn a’u gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau a wneir amdanynt, yn cynnwys cynllunio rhyddhau
  • Sicrhau bod pobl hŷn a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy’u dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael
  • Sicrhau modd cyson, integredig o ymdrin ag eiddilwch ar draws y rhanbarth sy’n cydweddu â’r strategaethau a’r llwybr rhanbarthol ar eiddilwch a dementia
  • Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau pobl hŷn yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau
  • Gwella a safoni’r lefelau teleiechyd a theleofal ar draws y rhanbarth
  • Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig iawn, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio
  • Datblygu dull integredig o sicrhau ansawdd a monitro contractau cartrefi gofal er mwyn canfod a mynd i’r afael â phryderon sy’n dod i’r amlwg ac atal lleoliadau rhag chwalu