Gofal a chymorth integredig

Llwybr gofal a chymorth integredig

O ran anghenion gofal a chymorth, nododd ein Hasesiad Poblogaeth nifer o sialensiau a chyfleoedd cyffredin ar draws y gwahanol grwpiau poblogaeth. Dangosodd fod cydweithio ataliol, wedi’i seilio ar wella iechyd y boblogaeth a lleihau a gohirio’r angen am ofal a chymorth, yn mynd i fod yn hollbwysig os ydym i helpu pobl i sicrhau canlyniadau cadarnhaol, i barhau i fod yn annibynnol ac i fyw bywydau cyflawn yn ein cymunedau. Mae gennym seiliau cryf i adeiladu arnynt er ei bod yn glir fod rhaid gwneud newidiadau’n gyflymach. Bydd hyn yn golygu newid sylfaenol yn y cydbwysedd rhwng cymorth ataliol, yn y gymuned a gwasanaethau aciwt, ynghyd â newid yn y blaenoriaethau ariannu. Mae’r newid hwn i’w weld yn y diagram yn Ffigur 2 isod, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ond sy’n berthnasol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

Yng ngoleuni natur drawsbynciol llawer o’n heriau a’n cyfleoedd, rydym wedi strwythuro’n Cynllun fel ei fod yn rhychwantu anghenion y boblogaeth gyfan drwy ddull ataliol, wedi’i gydgynhyrchu, o ddarparu gofal a chymorth, a adlewyrchir mewn llwybr gofal a chymorth fesul cam. Mae’r dull hwn yn cyfateb i’n hymrwymiad i atal a amlinellir uchod a gwaith cenedlaethol sydd ar y gweill i ddatblygu modelau cyson o ofal di-dor, integredig, wedi’i leoli’n lleol.

 

Nod ein llwybr gofal a chymorth yw helpu pobl i:

  1. Cadw’n iach ac yn annibynnol yn y gymuned (er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch sy’n galluogi pobl i wneud dewisiadau priodol a chynnal eu hiechyd a’u lles personol, gan ddeall (o oed cynnar) werth ymarfer corff rheolaidd, bwyta’n iach a’r angen i gymdeithasu’n rheolaidd, gan gysylltu pobl â chanolfannau lles a chymorth anffurfiol yn eu cymunedau, a datblygu gwasanaethau byw gyda chymorth ymhellach) – Atal Cam 1

  2. Cynnal annibyniaeth drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu sy’n atal yr angen i dderbyn pobl i’r ysbyty neu i ofal preswyl hirdymor, neu sy’n fodd i’w rhyddhau’n amserol (er enghraifft gofal cartref, addasiadau tai, gwasanaethau ‘gwrthdroi’ wrth ddrws ffrynt ysbytai a gwasanaethau ymateb cyflym, ‘camu i fyny’, ‘camu i lawr’ a gwasanaethau ailalluogi, gofal ychwanegol, cynnal teuluoedd a rhieni i leihau profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) sy’n gallu cael effaith gydol oes, adeiladu ar waith y Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd i weithio gyda’r plant a’r teuluoedd mwyaf bregus yng Nghymru a’u cefnogi) – Atal Cam 2

  3. Derbyn, lle bo’n briodol, gofal a chymorth tymor hir, yn canolbwyntio ar ganlyniadau er enghraifft drwy iechyd a/neu ofal cymdeithasol parhaus mewn sefydliadau preswyl gyda ffocws ar hybu annibyniaeth, adeiladu ar gryfderau a gwella’r canlyniadau i unigolion dros amser, gan weithio i leihau lefelau dianghenraid o ofal – Atal Cam 3

 

Mae Adran 3 o’r Cynllun yn darparu Cynllun Cyflawni lefel uchel sy’n cynnwys amryw o amcanion wedi’u grwpio o dan dri cham ein dull ataliol, ynghyd ag adran ychwanegol sy’n rhoi amcanion yng nghyswllt y ‘galluogwyr’ ym mlaenoriaethau Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol. Ar gyfer pob amcan rydym yn nodi’r grwpiau poblogaeth y bydd y newid arfaethedig yn effeithio arnynt (gan gysylltu’n ôl yn uniongyrchol â’r Penodau yn ein Hasesiad Poblogaeth a’r wybodaeth gryno yn Adran 2), a pha rai o’r wyth blaenoriaeth ranbarthol a nodir uchod sy’n berthnasol. Rydym hefyd yn trawsgyfeirio pob amcan at yr argymhellion trosfwaol yn ein Hasesiad Poblogaeth.

Nesaf