Y Gymraeg

Y Gymraeg

Wrth gynnal ein Hasesiad Poblogaeth, roedd gofyn inni ystyried sut y caiff gwasanaethau gofal a chymorth eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn ystyriaeth bwysig i’n rhanbarth gan fod cyfran y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol uwch yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion nag yng Nghymru gyfan. Nid yw hynny’n wir yn Sir Benfro, er ei bod yn dal yn hollbwysig fod gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg i bobl yn y gymuned sydd â’r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt.

Mae nifer o gynlluniau ar waith ar draws y rhanbarth i wella argaeledd gwasanaethau gofal a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau bod gofynion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a’r Fframwaith ‘Mwy Na Geiriau’ yn cael eu cyflawni’n llwyr. I gefnogi gwelliannau pellach yn y maes hwn rydym wedi mabwysiadu’r Gymraeg fel thema drawsbynciol ychwanegol. Byddwn yn sefydlu Fforwm Iaith Gymraeg rhanbarthol, yn ychwanegol at y rhai sydd eisoes yn bodoli yn ardal pob awdurdod lleol, a bydd yn galluogi dull cydweithredol, yn sicrhau cysondeb o ran y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg, yn hwyluso rhannu ymarfer ac yn cynhyrchu cynlluniau traws-ranbarthol fel sy’n briodol. Bydd y fforwm newydd hwn yn adrodd yn rheolaidd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol.

Nesaf