Cynllun cyflawni

Adran 3: Cynllun cyflawni

Mae’r adran hon yn cynnwys amcanion lefel uchel yr eir i’r afael â nhw’n gydweithredol ar ran Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol dros y cyfnod i ddod. Lle bo’n bosibl, darperir dolenni i gynlluniau gweithredu manylach. Gall y cynlluniau manwl hyn newid dros amser a byddwn yn diweddaru ein Cynllun yn rheolaidd i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Hefyd darperir amserlenni dangosol ar gyfer cyflawni ein hamcanion, gyda ‘tymor byr’ yn golygu amserlen o 1 i 2 flynedd a ‘tymor canolig’ yn golygu 3 i 5 mlynedd. Unwaith eto, gall yr amserlenni hyn gael eu haddasu dros amser a gellir adleisio unrhyw newidiadau wrth i’r Cynllun gael ei ddiweddaru.

...

Atal Cam 1

Cadw’n iach ac yn annibynnol yn y gymuned.

...

Atal Cam 2

Cynnal annibyniaeth drwy ddarparu cymorth wedi’i dargedu sy’n atal yr angen i dderbyn pobl i’r ysbyty neu i ofal preswyl hirdymor, neu sy’n fodd i’w rhyddhau’n amserol.

...

Atal Cam 3

Darparu gofal a chymorth priodol, tymor hir, yn canolbwyntio ar ganlyniadau.

Monitro’r cyflawni

Bydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol yn cael diweddariadau rheolaidd ar weithredu’r Cynllun, a chynlluniau gweithredu ategol lle mae’n briodol. Defnyddir canlyniadau rhanbarthol a mesurau perfformiad fel sail i dracio cynnydd. Achubir ar gyfleoedd i adnewyddu’r cynllun, er enghraifft lle mae datblygiadau polisi cenedlaethol yn golygu bod angen ffordd newydd o weithredu a lle mae gweithgareddau cychwynnol wedi cael eu cwblhau a bod angen bwrw ymlaen i’r cam nesaf.

Bydd diweddariadau rheolaidd ar gael ar wefan Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Bydd Adroddiadau Blynyddol Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol hefyd yn rhoi diweddariad o’r cynnydd o ran gweithredu.