Blaenoriaethau rhanbarthol

Mae ein Cynllun yn adlewyrchu wyth blaenoriaeth ranbarthol sydd wedi’u mabwysiadu gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol. Mae’r rhain wedi cael eu llunio gan gyd-destun y polisi cenedlaethol, gofynion statudol o dan y Ddeddf a chanfyddiadau ein Hasesiad Poblogaeth.

Mae ein blaenoriaethau rhanbarthol yn ffitio i dri chategori, fel y nodir isod:

GALLUOGWYR NEWID – gwella prosesau craidd a chreu capasiti i weddnewid
  • Strategaeth Ranbarthol o ran y Gweithlu
  • Comisiynu integredig
  • Gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS)
TRAWSNEWID GWASANAETHAU ALLWEDDOL – integreiddio modelau gofal i wahanol grwpiau
  • Trawsnewid y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
THEMÂU TRAWSBYNCIOL – meysydd newid sy’n rhychwantu gwahanol grwpiau poblogaeth
  • Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
  • Gofalwyr
  • Integreiddio gwasanaethau a chronfeydd cyfun
  • Y Gymraeg

Mae rhaglenni gwaith cynhwysfawr ar waith i gefnogi pob amcan ac mae’r camau cyflawni allweddol sy’n codi o’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn yr amcanion a bennir yn ein Cynllun Cyflawni yn Adran 3.

Nesaf