Crynodeb o’r materion

Adran 2: Crynodeb o’r materion yn ôl grŵp poblogaeth

 

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae un o bob wyth person yng Ngorllewin Cymru, llawer ohonynt yn bobl ifanc, yn darparu gofal di-dâl gyda chyfran sylweddol yn darparu rhwng 20 a 50+ awr o ofal di-dâl yr wythnos
  • Mae darparu gofal di-dâl yn dod yn fwy a mwy cyffredin wrth i’r boblogaeth heneiddio, a’r disgwyl yw y bydd gofal a ddarperir gan briod a phlant sy’n oedolion yn mwy na dyblu dros y deg mlynedd ar hugain nesaf
  • Ar sail amcangyfrif cenedlaethol a wnaed gan Carers UK a Phrifysgol Sheffield yn 2015, byddai cost darpariaeth yn lle gofal di-dâl yng Ngorllewin Cymru yn £924 miliwn. Mae hyn yn fwy na chyllideb flynyddol y Gwasanaeth Iechyd yn y rhanbarth
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Codi proffil gofalwyr a dealltwriaeth y cyhoedd ohonynt a gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori a chyngor ynglŷn â budd-daliadau 1.10
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth, yn cynnwys gwasanaethau gwybodaeth a hyfforddiant i ofalwyr, sy’n cefnogi pob un o’r cyfnodau allweddol ar y siwrnai ofalu 1.12
Sicrhau bod gofalwyr a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael 1.12
Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau am y sawl sy’n cael gofal, yn cynnwys cynllunio rhyddhau 2.9; E7
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau 1.11
Cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi seiliedig yn y gymuned sy’n cydgynhyrchu modelau newydd i gyflenwi gwasanaethau, megis cwmnïau cydweithredol gofalwyr 1.11
Datblygu Cynlluniau Cludiant Cymunedol integredig a chonsesiynau eraill ar ôl-troed rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaeth mwy cyson sy’n cydweddu â Thaliadau Uniongyrchol, cynlluniau Talebau a chynlluniau cymunedol eraill I’w drafod ymhellach gan BGCau
Mynd i’r afael â materion llety i’r rhai sy’n gofalu am bobl hŷn neu bobl ag anableddau dysgu y mae angen iddynt symud cartref o le amhriodol, neu y mae angen cymorth arnynt gydag addasiadau, cyfarpar, gwaith atgyweirio a gwelliannau, polisïau gosod, larymau a thechnolegau teleofal 1.10, 1.12
Integreiddio asesiad effaith ar ofalwyr i’r prosesau cynllunio ar gyfer rhaglenni seilwaith megis cludiant, tai a datblygiadau technoleg a rhaglenni cymunedol perthnasol eraill Cynllun cyfan
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae Grŵp Datblygu Gofalwyr rhanbarthol wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae plant a phobl ifanc i gyfrif am oddeutu 22.2% o boblogaeth rhanbarth Gorllewin Cymru. Disgwylir i nifer y bobl ifanc aros yn weddol sefydlog dros y 15 mlynedd nesaf
  • Mae gan y rhanbarth nifer is o Blant sy’n Derbyn Gofal na’r cyfartaledd cenedlaethol
  • Mae’r anghenion gofal a chymorth yn rhychwantu amrediad eang, o ddarpariaeth i bawb, drwy ymyrraeth gynnar, anghenion lluosog ac ymyrraeth adferol
  • Mae partner asiantaethau wedi mabwysiadu continwwm gofal a chymorth cyson at ei gilydd ar gyfer plant a theuluoedd, gyda ffocws ar atal
  • Ymysg y meysydd i’w gwella mae datblygu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ymhellach, adeiladu ar raglenni sydd wedi ennill eu plwyf megis Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a’r Tîm o Amgylch y Teulu; rhoi ffocws newydd i ofal a chymorth a reolir er mwyn hyrwyddo annibyniaeth a lles; gwella gwaith amlasiantaeth a gwella’r cydweithio ar draws y rhanbarth i ddod â gwasanaethau i lefel a safon gyson
  • Dylid hefyd ystyried cydweithio er mwyn mynd i’r afael â sialensiau strategol megis cyllidebau sy’n crebachu, datblygu’r gweithlu a sefydlu gwasanaethau ataliol o dan arweiniad defnyddwyr
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth sy’n cyfeirio teuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc at ofal a chymorth perthnasol o fewn cymunedau 1.3; 1.4; 1.14
Gwella’r brosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gan ddinasyddion lais gwirioneddol wrth gytuno ar ganlyniadau a’r cymorth sy’n ofynnol i’w gwireddu 1.15; 2.1; E7
Sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y ‘cynnig gweithredol’ drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael I’w ystyried gan fforwm rhanbarthol yr iaith Gymraeg
Datblygu gwasanaethau wedi’u seilio yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n cefnogi teuluoedd sydd â phlant a phobl ifanc i ddod yn gryfach ac i ddatblygu amryw o sgiliau, yn cynnwys sgiliau byw 1.14; 1.15; 1.17
Ad-drefnu’r prosesau comisiynu pecynnau gofal a chymorth uchel eu cost, bach o ran nifer, ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, er mwyn cyflenwi gwasanaethau cost-effeithiol cyson sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaethau 3.5
Gwella’r cymorth a gynigir o ran cydberthnasau teuluol, yn arbennig i rieni newydd neu rieni sydd dan straen oherwydd ffactorau eraill fel carchar neu anabledd 1.14
Gwella llety a diwallu anghenion cymorth llety pobl ifanc sy’n gadael gofal, neu ar ôl dedfryd o garchar I’w drafod ymhellach gan BGCau
Gwella’r rhyngweithio rhwng gwasanaethau plant, iechyd meddwl ac anabledd dysgu a mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl 1.18
Lleihau nifer y symudiadau o ran lleoliad i blant sy’n derbyn gofal, a lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl 1.14
Gwella’r cyd-gynllunio rhwng CAMHS a gwasanaethau anabledd dysgu, i sicrhau darpariaeth gwasanaethau deg i blant sydd â chyflyrau niwroddatblygiadol drwy’r rhaglen ‘Gyda’n Gilydd dros Blant’ 1.18
Datblygu cysylltiadau rhwng Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) a gwasanaethau cyngor eraill megis gofal oedolion a thai yn ogystal â gwasanaethau wedi’u seilio yn y gymuned, i helpu teuluoedd yn ôl i annibyniaeth a’u galluogi i weithredu’n effeithiol yn eu cymunedau 2.9
Gwella mynediad at wasanaethau iechyd rhyw i blant 1.2; 1.4; 1.15
Mabwysiadu methodoleg gyson megis Arwyddion Diogelwch fel sail i ofal a chymorth ar draws y rhanbarth 1.16
Datblygu fframwaith perfformiad cyson, wedi’i seilio ar ganlyniadau, ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth Eir i’r afael ag ef drwy’r fframwaith canlyniadau rhanbarthol
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae Grŵp Gwasanaethau Plant rhanbarthol yn cael ei sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni, gan weithio lle mae’n briodol gyda fforymau eraill megis y Pwyllgor Mabwysiadu Rhanbarthol a’r Grŵp Swyddogion Arweiniol IFSS.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Er bod disgwyliad oes yng Ngorllewin Cymru fymryn yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, mae lefelau uwch o bobl sy’n ordew neu’n ordrwm
  • Mae ardaloedd sylweddol o amddifadedd yn y Rhanbarth, yn benodol mewn rhannau o Lanelli, Aberteifi a Doc Penfro
  • Er bod y ffyrdd o fyw yma yn iachach nag yng Nghymru yn gyffredinol, mae yma sialensiau i fynd i’r afael â nhw, yn cynnwys lefelau yfed alcohol uwch yng Ngheredigion
  • Ni fydd cyfran sylweddol o bobl yn y grŵp oedran 18-64 yn cyrchu’n uniongyrchol at ofal a chymorth i ymdrin ag anghenion penodol. Fodd bynnag, byddant yn elwa o wybodaeth gyffredinol am iechyd y cyhoedd a rhaglenni sy’n anelu at annog ffyrdd iach o fyw a lleihau’r risg i iechyd a achosir gan ffactorau fel ysmygu a gordewdra.
  • Mae amryw o ‘ffactorau cyflymu’ wedi’u nodi yn amgylcheddau pobl a allai ei gwneud yn fwy tebygol y byddant yn datblygu cyflwr iechyd parhaus, neu’n dwysáu effeithiau cyflyrau presennol, y dylid cymryd camau lliniaru yn eu herbyn. Mae’r rhain yn cynnwys diweithdra, cyflogau isel a thai gwael
  • Cyflyrau niwrolegol yw’r achos mwyaf cyffredin o anabledd difrifol a chânt effaith fawr, er nad yw wedi’i chydnabod yn aml, ar fywydau pobl a’r gwasanaethau gofal a chymorth
  • Rhaid ychwanegu amryw o ddulliau cydweithredol at gyfraniad gwasanaethau gofal a chymorth er mwyn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl
  • Mae gan Iechyd y Cyhoedd rôl bwysig i’w chwarae yn darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol i’r boblogaeth ar ddewisiadau byw yn iach a chymorth mewn meysydd fel diet a rhoi’r gorau i ysmygu. Mae angen i hyn gychwyn yn y blynyddoedd cynnar ond dylid ei gynnal lle mae’n bosibl ar draws yr holl grwpiau oedran.
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis Cymru ac Infoengine, a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd 1.3; 1.4
Datblygu gwasanaethau rhanbarthol cyson, integredig, sy’n hygyrch ac yn ymateb i anghenion y boblogaeth Cynllun cyfan
Gwneud yn well o ran adnabod, trin a rheoli cyflyrau y mae modd eu hatal a chyflyrau cronig yn cynnwys diabetes, clefyd y galon ac anhwylderau anadlol, i wella lles tymor hir a lleihau cymhlethdodau 1.1
Sicrhau bod ymyriadau a llwybrau effeithiol er mwyn atal, trin a rheoli gordewdra a gordewdra mewn plentyndod ar gael fel mater o drefn, a’u bod yn cael eu gweithredu’n systematig 1.1
Gwneud yn well o ran adnabod a thrin ffactorau risg yn gysylltiedig ag anghydraddoldeb iechyd 1.1
Cryfhau’r trefniadau pontio rhwng y gwasanaethau plant a phobl ifanc a’r gwasanaethau oedolion Cynllun cyfan
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn helpu pobl i fod yn gryfach ac i reoli’u cyflyrau eu hunain 1.2; 1.4; 2.3; 3.1; E5
Cynyddu’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol, megis teleofal, i drawsnewid gofal cartref a gwasanaethau byw â chymorth 1.5
Gwella’r hyblygrwydd i gyflenwi darpariaeth ‘camu i fyny’ a ‘chamu i lawr’ mewn ymateb i newidiadau mewn anghenion 2.2; 2.3
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i wella’r canlyniadau iechyd i’r rhai sy’n byw yng Ngorllewin Cymru, yn gweithio yno neu’n ymweld â’r ardal. Mae dull o edrych ar iechyd y boblogaeth gyfan, sy’n ceisio gwreiddio gwaith atal ac ymyrraeth gynnar, yn sylfaen i’r rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Yn y tymor canolig i hir, caiff Strategaeth Iechyd Cyhoeddus a Llesiant ei datblygu, dan nawdd Pwyllgor Strategaeth Iechyd y Bwrdd Iechyd, gan ddatblygu cynlluniau a phrosesau trawsbynciol i sicrhau bod nodau strategol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol yn y maes hwn.

Bydd angen i’r Strategaeth sicrhau bod y ddarpariaeth yn ‘ffitio’ ar draws y system ehangach, a bydd gwaith effeithiol drwy bartneriaeth ar draws y sectorau a’r asiantaethau sy’n darparu gofal a chymorth yn dyngedfennol er mwyn cael yr effaith fwyaf a gwella iechyd poblogaeth Gorllewin Cymru i’r eithaf.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Amcangyfrifir bod 1,483 o bobl dros 18 ag anabledd dysgu canolig neu ddifrifol yng Ngorllewin Cymru (ffigurau 2015), sy’n cynrychioli ychydig llai na 0.5% o’r boblogaeth oedolion drwyddi draw ac mae hyn yn debyg i’r sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru
  • Disgwylir i’r nifer hwn godi dros y ddau ddegawd nesaf, ond ar yr un raddfa â’r twf yn y boblogaeth yn gyffredinol
  • Rhagwelir cynnydd mwy sylweddol o 33%yn y bobl dros 75 sydd ag anabledd dysgu canolig neu ddifrifol dros yr un cyfnod
  • Nid oes data am nifer yr achosion o awtistiaeth yn cael ei gasglu fel mater o drefn; fodd bynnag, rhwng mis Ionawr 2013 a mis Tachwedd 2015 atgyfeiriwyd 265 o unigolion at y gwasanaethau diagnostig a rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2016 roedd y nifer yn 99. Yng Ngheredigion a Sir Benfro (lle caiff data ei gasglu) roedd 40 a 113 o achosion agored, y naill a’r llall, ar adeg yr Asesiad Poblogaeth
  • Mae’r ffordd y caiff anghenion pobl ag Anabledd Dysgu eu diwallu wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf. Yn gynyddol, mae pobl a fyddai’n hanesyddol wedi cael eu lleoli mewn gofal sefydliadol yn cael cymorth i fyw yn eu cymunedau. Mae’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â’r trydydd sector yn cydweithio i wireddu potensial y rhai sy’n defnyddio’n gwasanaethau a sicrhau eu bod mor annibynnol â phosibl.
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Gwneud yn well o ran adnabod, diagnosio, a thrin a rheoli pobl ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn cynnwys ASD ac ADHS 1.9; 2.8
Grymuso pobl ag anabledd dysgu i benderfynu pwy sy’n rhoi cymorth iddynt ac ar ba ffurf y bydd y cymorth hwnnw 1.19; 1.20; 2.12
Cryfhau’r llwybrau’n ôl i gymunedau lleol drwy ddatblygu addysg leol, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith mewn cymunedau, a gwneud yr addasiadau angenrheidiol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu 1.19; 2.12
Cynyddu argaeledd a mynediad at dai a llety lleol addas, priodol, i alluogi pobl ag anabledd dysgu i fyw mor annibynnol â phobl mewn lle o’u dewis nhw 2.12
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau 1.19; 2.12; 3.8; E2; E3; E5
Sicrhau bod hyd a lled pecynnau gofal presennol yn iawn i ddiwallu’r anghenion cyfredol, hwyluso datblygiad personol, cynyddu annibyniaeth a chyflenwi gwasanaethau cost-effeithiol sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaethau 2.12
Datblygu fframwaith perfformiad cyson, seiliedig ar ganlyniadau, ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ar draws y rhanbarth, gan ddefnyddio data yn sail i gynllunio a chomisiynu yn y dyfodol 3.8
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae Grŵp Rhaglen Anabledd Dysgu rhanbarthol wedi’i sefydlu gyda chynrychiolwyr o’r holl bartner asiantaethau. Bydd y Grŵp hwn, sy’n adrodd i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, yn goruchwylio gweithrediad yr amcanion perthnasol yn y Cynllun Cyflawni. Ceir Grŵp Strategaeth rhanbarthol i oruchwylio gweithredu’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yng Ngorllewin Cymru.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, mewn unrhyw flwyddyn bydd un o bob pedwar ohonom yn wynebu problem iechyd meddwl, ond nid yw tri chwarter y bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn cael unrhyw driniaeth
  • Yng Ngorllewin Cymru, mae 25% o’r rhai dros 16 ag anhwylder iechyd meddwl cyffredin (ffigurau 2013-14). Disgwylir i nifer yr achosion o anhwylderau iechyd meddwl gynyddu yn y cyfnod hyd at 2030. Mae tua 75% o’r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn dioddef o anhwylderau cyffredin megis iselder ysbryd, anhwylder gorbryder, anhwylder panig, anhwylder gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder pryder ôl-drawmatig
  • Mae nifer yr achosion o ddementia cynnar (cyn 65 oed) ychydig yn uwch yng Ngorllewin Cymru na thrwy’r wlad i gyd, er bod disgwyl i’r ffigur ostwng dros yr 20 mlynedd nesaf
  • Bydd angen cymorth yn gysylltiedig â’n hiechyd meddwl gydol ein hoes ar nifer sylweddol o bobl, boed hynny’n gymorth dwysedd isel ar gyfer anawsterau fel gorbryder lefel isel /iselder ysbryd neu gymorth tymor hwy
  • Gall salwch meddwl ddatblygu o nifer o ffactorau yn cynnwys trawma cymdeithasol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a rhagdueddiad genetig. Nid yw iechyd meddwl yn gwahaniaethu a gall effeithio ar unrhyw un, gan arwain yn aml at gyflyrau nychus.
  • Mae ymyrraeth gynnar yn hollbwysig a gall hyn fod ar ffurf darparu gwybodaeth neu gyfeirio at wasanaethau yn y gymuned neu wasanaethau gan y trydydd sector. Mewn sefyllfaoedd eithafol gellir derbyn pobl i wasanaethau cleifion preswyl, lle nad oes modd trin yr unigolyn yn y gymuned a’i fod yn peri risg iddo’i hun a/neu i eraill
  • Amcangyfrifwyd bod costau economaidd a chymdeithasol problemau iechyd meddwl yng Nghymru yn £7biliwn y flwyddyn
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Gwella’r gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar, darpariaeth amgen yn lle derbyn i’r ysbyty a mynediad at wasanaethau, yn enwedig i’r rhai sydd mewn argyfwng 1.21; 1.22; 2.14
Datblygu dull o ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a ‘risg-galluogi’ fel bod modd bod yn hyblyg 1.21; 1.22; 2.14
Gwella mynediad at gyngor a chymorth i ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, yn cynnwys hawliau lles ac ymwneud â gofal a thriniaeth 1.21
Datblygu mynediad uniongyrchol 24 awr at ddarpariaeth amgen i’r rhai mewn argyfwng, os nad eu derbyn i’r ysbyty yw’r opsiwn gorau 1.22; 2.15
Gwella profiad defnyddwyr gwasanaethau a’r trefniadau cludo yng nghyswllt Ad136 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, i’r rhai sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu I’w symud ymlaen drwy’r Cynllun Gweithredu ar Drawsnewid Iechyd Meddwl
Datblygu gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol wedi’u cydgynhyrchu i helpu pobl i fagu hyder a sgiliau rwy ddefnyddio cymorth gan gymheiriaid a/neu fentora 1.21
Datblygu gweithlu hyblyg ac ymatebol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn darparu modelau newydd o wasanaeth iechyd meddwl 1.7; 2.4; 3.2; E1
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio I’w drafod ymhellach gan BGCau
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae Bwrdd Rhaglen Iechyd Meddwl rhanbarthol wedi’i sefydlu sy’n gyfrifol am symud y Rhaglen Law yn Llaw at Iechyd Meddwl ymlaen ac mae cyswllt cryf rhyngddo â’r rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol. Mae cysylltiadau’n cael eu sefydlu rhwng y Bwrdd hwn a Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae’r gyfran o bobl hŷn (dros 65 oed) yn uwch yng Ngorllewin Cymru nag yng Nghymru drwyddi draw (21.3% o’i gymharu â 18.6%)
  • Rhagwelir cynnydd o oddeutu 60% yn nifer y bobl dros 65 yng Ngorllewin Cymru erbyn 2035
  • Rhagwelir cyfradd uwch fyth o gynnydd yn nifer y bobl dros 85 yng Ngorllewin Cymru – 122% - dros yr un cyfnodd
  • Mae disgwyliad oes heb anabledd yn cynyddu’n arafach na disgwyliad oes, sy’n awgrymu cynnydd yn yr angen am ofal a chymorth dros amser
  • Mae niferoedd sylweddol uwch o bobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty ar frys yng Ngorllewin Cymru nag ar draws y boblogaeth drwyddi draw gydag anghysondeb tebyg yn nifer y bobl sy’n cael gofal fel cleifion preswyl am gyflyrau cronig
  • Mae’r cyfraddau dementia mewn pobl hŷn hefyd yn debygol o godi, gydag amcanestyniadau neilltuol o uchel yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
  • Mae natur wledig yn gallu bod yn ffactor sy’n dwysáu anghenion pobl hŷn, oherwydd ynysu cymdeithasol, lefelau uwch o amddifadedd a mynediad gwael at wasanaethau
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth yn cynnwys Dewis a gwasanaethau eiriolaeth perthnasol i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol ar bob cyfnod o fywyd 1.3; 1.4
Gwella gofal rhagflaenol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a sectorau eraill fel nad yw anghenion yn dwysáu 1.1; 2.2
Lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl a gofal nyrsio o blaid gwasanaethau ataliol a lles ar lefel is 1.1; 1.2; 1.4; 1.5; 1.23; 2.2; 2.5; 2.6; 2.16; 3.12; E5
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n atal ynysu; hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned, lles a chryfder a helpu pobl i barhau i fod yn annibynnol yn hirach yn eu cymunedau eu hunain 1.2; E5
Gwella’r prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod pobl hŷn a’u gofalwyr yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau a wneir amdanynt, yn cynnwys cynllunio rhyddhau 2.1; E8
Sicrhau bod pobl hŷn a’u teuluoedd yn gallu cyrchu at wasanaethau drwy’u dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael I’w ystyried gan fforwm rhanbarthol yr iaith Gymraeg
Sicrhau modd cyson, integredig o ymdrin ag eiddilwch ar draws y rhanbarth sy’n cydweddu â’r strategaethau a’r llwybr rhanbarthol ar eiddilwch a dementia 1.1; 1.2; 1.3; 1.4; 1.5; 1.8; 1.23; 2.1; 2.2; 2.3; 2.5; 2.7; 3.1; 3.12; E1; E2; E3; E5; E7
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys grwpiau a fforymau pobl hŷn yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau E2; E3; E5
Gwella a safoni’r lefelau teleiechyd a theleofal ar draws y rhanbarth 1.5
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig iawn, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch ac yn her o ran recriwtio I’w drafod ymhellach gan BGCau
Datblygu dull integredig o sicrhau ansawdd a monitro contractau cartrefi gofal er mwyn canfod a mynd i’r afael â phryderon sy’n dod i’r amlwg ac atal lleoliadau rhag chwalu 3.11
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Bydd grŵp rhanbarthol yn cael ei sefydlu i oruchwylio’r ystod o amcanion a gynhwysir yn y Cynllun, yn cynnwys y rheiny sy’n ymwneud â dementia ac eiddilwch.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae nam ar y synhwyrau yn gallu bod yn gyflwr arwyddocaol sy’n cyfyngu ar fywyd ac mae nifer yr achosion yn cynyddu gydag oedran
  • Yng Ngorllewin Cymru mae nifer y rhai dros 75 sydd â nam canolig neu ddifrifol ar y golwg a chyflyrau cofrestradwy ar y llygaid yn debygol o gynyddu’n sylweddol dros y ddau ddegawd nesaf
  • Mae nifer y bobl â nam canolig neu ddifrifol ar y clyw yn debygol o gynyddu 32% a 42%, y naill a’r llall, dros yr un cyfnod
  • Mae adnabod cynnar, atal a gwella mynediad at wasanaethau prif ffrwd yn hanfodol er cynnal lles y rhai sydd â nam ar y synhwyrau
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Codi proffil nam ar y synhwyrau a Gwasanaeth Golwg Gwan y Gwasanaeth Iechyd, a dealltwriaeth y cyhoedd o hynny, a gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori ac integreiddio â gwasanaethau eraill cysylltiol 1.24
Datblygu mynediad priodol at ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth sy’n ymdrin â’r anghenion a’r rhwystrau rhag cyrchu at wasanaethau, sy’n gallu atal y rhai sydd â nam ar y synhwyrau rhag manteisio ar ofal iechyd hanfodol 1.3; 1.4; 1.24
Datblygu cymorth a gwasanaethau penodol, cyson, megis dehongli, cyfieithu, darllen gwefusau, therapïau siarad, adsefydlu a chlinigau offthalmoleg a glawcoma i sicrhau eu bod ar gael ac yn hygyrch ar draws y rhanbarth 2.17; 1.24
Cynyddu’r defnydd o daliadau uniongyrchol i sicrhau bod gan bobl ddewis gwirioneddol a rheolaeth dros y gofal a’r cymorth maen nhw’ n ei gael 3.1
Datblygu gwasanaethau seiliedig yn y gymuned, dan arweiniad defnyddwyr, wedi’u cydgynhyrchu, sy’n atal ynysu; yn hyrwyddo cysylltiadau o fewn y gymuned, lles a chryfder a chymorth i bobl i barhau i fod yn annibynnol yn hirach yn eu cymunedau eu hunain 1.2; 1.24; E5
Mynd i’r afael â’r diffyg cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig iawn, sy’n ychwanegu at anhawster cyflenwi gwasanaethau hygyrch I’w drafod ymhellach gan BGCau
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Sefydlir grŵp rhanbarthol gorchwyl a gorffen i ystyried y bylchau a'r meysydd i'w gwella o fewn yr Asesiad Poblogaeth ac i gytuno ar gynllun gweithredu rhanbarthol ar gyfer y camau a nodwyd.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae canran yr oedolion sy’n yfed mwy na’r canllawiau a argymhellir ac sy’n goryfed mewn pyliau yn disgyn ac mae’n is na chyfartaledd Cymru. Fodd bynnag mae dros 22% o’r boblogaeth yn yfed ar lefel sy’n niweidiol
  • Mae amrywiaeth rhanbarthol o ran derbyniadau i’r ysbyty yn gysylltiedig ag alcohol gyda gostyngiadau yng Ngheredigion a Sir Benfro rhwng 2014-15 a 2015-16 ond cynnydd yn Sir Gaerfyrddin dros yr un cyfnod
  • Mae cyfran y bobl sy’n cwblhau triniaeth cyffuriau yn llwyddiannus yng Ngorllewin Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru, ar 79%
  • Mae’r achosion o Blant mewn Angen oherwydd camddefnyddio sylweddau yn y teulu yn is na chyfartaledd Cymru, a Cheredigion a Sir Benfro sydd â’r cyfrannau isaf yng Nghymru
  Dengys data mwy diweddar sydd wedi dod ar gael ers cwblhau’r Asesiad Poblogaeth dueddiadau sy’n peri pryder ac y mae angen cymryd camau unioni priodol yn eu cylch:
 
  • Yn ystod 2016-17, ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda welodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru o ran cyfraddau derbyniadau ysbyty mewn perthynas ag alcohol ar gyfer cyflwr alcohol benodol. Roedd gan Sir Gaerfyrddin gyfradd dderbyn o 375 o unigolion fesul 100,000 o’r boblogaeth, sef cynnydd o 25% ers 2015/16 a chynnydd o 46% ers 12-13. Mae Ceredigion wedi gweld cynnydd o 13% ers 2015/16 a Sir Benfro wedi gweld cynnydd o 3%
  • Mae derbyniadau ysbyty o achos alcohol yn Sir Gaerfyrddin yn 2016-17, wedi cynyddu 12% o gymharu â 2015-16, a 27% dros y 5 mlynedd diwethaf. Mae Ceredigion wedi cynyddu 8% yn y flwyddyn ddiwethaf ac 19% o gymharu â chyfraddau derbyn bum mlynedd yn ôl. Nid oes newid wedi bod yng nghyfraddau Sir Benfro ers 2015-16 ond mae cynnydd o 9% wedi bod ers 2012-13
  • Yn 2016/17, roedd 1,197 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth alcohol (o gymharu â 1,137 yn 2015-16) a 978 o atgyfeiriadau ar gyfer triniaeth cyffuriau
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn gallu cyrchu ar wasanaethau drwy eu dewis iaith a bod y cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael 1.25 Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
Sefydlu dull mwy cydgysylltiedig a chydlynus o ymdrin ag addysg ar gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol a chodi ymwybyddiaeth pobl ifanc ar draws ysgolion a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
Sefydlu opsiynau triniaeth clir a chydlynus i bobl ifanc a’u teuluoedd sydd â phroblemau cyffuriau ac alcohol er mwyn ymdrin yn fwy cyfannol ag atal ac ymyrraeth gynnar, gan sicrhau bod cysylltiad clir â’r agenda Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Gweler Cynllun Atal y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
Datblygu llwybrau clir rhwng gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl yr un pryd Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
Targedu atal, ymyrraeth gynnar ac ymyriadau triniaeth er mwyn lleihau niwed i bobl hŷn (50+ oed) sydd â phroblemau alcohol Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
Datblygu opsiynau tai ac ailintegreiddio cyfleoedd yn y gymuned i ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n gwella Gweler Cynllun y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer Triniaeth a Lleihau Niwed a’i Gynllun Gweithredu ar gyfer Marwolaethau Cysylltiedig â Chyffuriau. Wrthi'n cael ei datblygu.
Sefydlu, datblygu, gweithredu a rheoli proses drylwyr i adolygu gorddosau angheuol a’r rhai nad ydynt yn angheuol, yn cynnwys cyflwyno trefn i weinyddu Naloxone ar draws safleoedd ysbyty Gweler Cynllun y Bwrdd Cynllunio Ardal ar gyfer Triniaeth a Lleihau Niwed a’i Gynllun Gweithredu ar gyfer Marwolaethau Cysylltiedig â Chyffuriau. Wrthi'n cael ei datblygu.
Datblygu prosesau comisiynu a chaffael cyson, integredig, wedi’u seilio ar egwyddorion cydgynhyrchu, sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, gofalwyr ifanc, rhieni neu eraill o bwys, grwpiau a fforymau yn y gymuned, o dan arweiniad defnyddwyr, yn y gwaith o ddylunio a chyflenwi gwasanaethau E2 Gweler Cynllun Triniaeth a Lleihau Niwed y Bwrdd Cynllunio Ardal. Wrthi'n cael ei datblygu.
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Bydd Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed ar Gamddefnyddio Sylweddau yn symud y gwaith hwn ymlaen drwy strategaeth gomisiynu ranbarthol, ar sail y weledigaeth ganlynol:
  • Bydd pobl yn iachach ac yn profi llai o risgiau o ganlyniad i ddefnyddio alcohol a chyffuriau
  • Bydd llai o oedolion a phobl ifanc yn defnyddio cyffuriau neu’n yfed alcohol ar lefelau sy’n niweidiol i’w hunain neu i eraill
  • Bydd unigolion yn gallu gwella ar ôl defnydd problemus o gyffuriau ac alcohol a gwella eu cyfleoedd iechyd, llesiant a bywyd
  • Bydd gwasanaethau atal mewn perthynas ag alcohol a chyffuriau, triniaeth a chymorth ar gael yn hwylus, o safon uchel, yn amserol ac yn gwella’n barhaus
  • Bydd teuluoedd a phlant pobl sy’n camddefnyddio alcohol a chyffuriau yn ddiogel, yn cael cefnogaeth dda, ac yn cael cyfleoedd bywyd gwell
Mae cysylltiadau’n cael eu creu rhwng y Bwrdd Cynllunio Ardal a Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol er mwyn helpu i hwyluso dull cydlynol yn y maes hwn.

Beth a ddywedodd yr Asesiad Poblogaeth wrthym

  • Mae 1.4 miliwn o fenywod a 700,000 o ddynion 16-59 oed yn dweud eu bod yn cael profiad o drais domestig yng Nghymru a Lloegr.
  • Menywod ifanc 16-24 oed sydd â’r risg fwyaf a chaiff menyw ei lladd bob 2.4 diwrnod yn y Deyrnas Unedig gyda 148 o fenywod wedi’u lladd gan ddynion yn y Deyrnas Unedig yn 2014.
  • O allosod y data hwn i Gymru gwelir bod 11% o fenywod a 5% o ddynion y flwyddyn yn cael profiad o ‘ryw gam-drin domestig’, tra oedd y cyfraddau ‘rhyw gam-drin rhywiol’ yn y flwyddyn ddiwethaf hefyd yn uwch i fenywod (3.2%) nag i ddynion (0.7%).
  • Mae 124,000 yn fras o fenywod, dynion, bechgyn a merched dros 16 oed yng Nghymru wedi dioddef trosedd rywiol yn eu herbyn.
  • Bu cynnydd o 26% yn nifer y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn ymwneud â phlant o dan 16 yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r ffigurau wedi mwy na dyblu yn y degawd diwethaf (Bentley et al, 2016). Y llynedd, roedd cyfradd y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant o dan 16 yng Nghymru yn 3.3 fesul 1000 o blant.
  • Yn 2011 yr amcangyfrif oedd bod 137,000 o ferched a menywod yn byw gyda chanlyniadau Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yn y Deyrnas Unedig, ac yn 2011 amcangyfrifwyd bod 60,000 o ferched o dan 15 oed a oedd yn byw yn y Deyrnas Unedig wedi’u geni i famau o wledydd lle mae anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael ei arfer a gallai fod risg iddyn nhw felly. Amcangyfrifir bod 140 o ferched y flwyddyn yng Nghymru yn dioddef anffurfio’u organau cenhedlu.
  • Menywod yw’r dioddefwyr mewn 80% o’r achosion y mae’r Uned Priodasau Dan Orfod yn delio â nhw; mae a wnelo 20% o’r achosion â dioddefwyr gwryw. Amcangyfrifir bod hyd at 100 o ddioddefwyr priodasau dan orfod y flwyddyn yng Nghymru.
  • Mae Cam-drin Domestig yn unig yn costio £303.5m y flwyddyn i Gymru. Mae hyn yn cynnwys costau gwasanaethau o £202.6m a £100.9m o allbwn economaidd wedi’i golli. Os caiff y gost emosiynol a dynol ei chynnwys hefyd, mae’r costau ychwanegol yn £522.9m.
 

Bylchau a meysydd i’w gwella a nodwyd

  Amcanion Perthnasol yn y Cynllun Cyflenwi
Codi proffil trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r ddealltwriaeth ohonynt, yn cynnwys ymysg grwpiau agored i niwed megis Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, y gymuned LGBT, pobl hŷn, ffoaduriaid a mudwyr Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Gwreiddio arferion da yn ymwneud ag adnabod, gwybodaeth, ymgynghori ac integreiddio gwasanaethau eraill cysylltiol 2.18
Adnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn gynharach Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Gwella addysg am gydberthnasau iach a chydraddoldeb rhyw, gan sicrhau gweithredu rhanbarthol cyson Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi i ddarparu ymatebion cyson, effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr 1.26
Darparu mynediad cydradd i ddioddefwyr at wasanaethau ag adnoddau priodol, sydd o safon gyson uchel, a arweinir gan anghenion, wedi’u seilio ar gryfder, ac sy’n ymateb i’r ddau ryw Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Datblygu cynlluniau ataliol, wedi’u seilio yn y gymuned, sy’n cynyddu ymwybyddiaeth, yn darparu gwybodaeth ac yn hwyluso mynediad at wasanaethau Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Cynyddu ymwneud goroeswyr yn y gwaith o gynllunio, cyflenwi a monitro gwasanaethau Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Datblygu a gweithredu llwybr integredig ar gyfer pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
Mwy o ffocws ar y tramgwyddwyr, gan eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd a darparu cyfleoedd, drwy ymyrraeth a chymorth, iddynt newid eu hymddygiad Cyfeirier at Strategaeth VAWDASV - Yn dod canol 2018
 

Sut byddwn ni’n symud y gwaith hwn ymlaen

Mae’n ofynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 fod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gyson a chydlynus i wella’r canlyniadau i unigolion a’u teuluoedd sydd wedi dioddef Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig neu Drais Rhywiol.

Yn 2018 bydd Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi’u strategaeth gyntaf ar y cyd i fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; gan amlinellu sut y bydd y rhanbarth yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, yn mynd i’r afael â tramgwyddwyr, yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol yr arfau a’r wybodaeth i weithredu, yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r materion ac yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn cydberthnasau a bod ymddygiad camdriniol wastad yn anghywir.

Mae’r strategaeth yn ceisio darparu fframwaith a fydd yn gwella’r cynllunio, y cyd-drefnu a’r cydweithio o ran ymateb a bydd hefyd yn help i integreiddio a thrawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi. Bydd yn galluogi newid sylweddol yn y gweithredu er mwyn gwireddu gostyngiad cynaliadwy mewn trais a chamdriniaeth, gwella canlyniadau i bob unigolyn a theulu yr effeithir arnynt ac atal camdriniaeth o’r fath rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Gweithrediaeth Ddiogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol VAWDASV. Mae Grŵp Strategol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sy’n atebol i’r Weithrediaeth Ddiogelu ranbarthol, wedi’i sefydlu i ddarparu strwythur llywodraethu i ddatblygu, cymeradwyo a monitro’r trefniadau rhanbarthol o ran Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Bydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol yn gweithio’n agos gyda Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i gytuno ar drefniadau adrodd ffurfiol ar gyfer VAWDASV. Bydd hyn yn ein galluogi i gryfhau gwaith partneriaeth effeithiol ac adnabod cyfleoedd i greu cynlluniau gwaith sy’n cydweddu â gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal.