Er bod meysydd penodol i’w gwella wedi’u nodi ym mhob un o’r adroddiadau thematig, mae nifer o argymhellion cyffredinol mae angen iddynt gael eu hystyried gan Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol er mwyn iddo ysgogi newid cynaliadwy i wasanaethau ar lawr gwlad. Nodir y rhain isod o dan egwyddorion craidd y Ddeddf:
Llais a rheolaeth
- Sicrhau bod yn rhaid i gynnal urddas pobl ac amddiffyn unigolion rhag esgeulustod a chamdriniaeth fod yn greiddiol i bob gwasanaeth.
- Sicrhau bod yr holl wasanaethau ar gael yn Gymraeg i’r rheiny mae eu hangen arnynt.
Atal ac ymyrraeth gynnar
- Adeiladu ar y sylfeini sylweddol sydd eisoes yn bodoli ar draws y meysydd
gwasanaeth sy’n cael sylw yn yr asesiad hwn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau
priodol ar gael i atal neu ohirio’r angen am ofal a chymorth parhaus a bod yr ethos
atal yn sylfaen i ofal ar bob lefel ac o bob math. Yn benodol, dylid achub ar
gyfleoedd i ddatblygu fframweithiau ataliol cyson ar draws gwasanaethau, sy’n
adeiladu ar arferion da sy’n bodoli eisoes, yn hwyluso pontio rhwng gwasanaethau
plant a gwasanaethau oedolion, ac yn lleihau yn amlwg yr angen am ofal a chymorth
parhaus.
- Buddsoddi mewn datblygu gwasanaethau ataliol cymunedol, gan gynnwys
darpariaeth gan fentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol a’r trydydd sector a
darpariaeth sy’n cael ei harwain gan ddefnyddwyr, ac felly datblygu cydnerthedd
cymunedau a, thrwy hynny, cydnerthedd pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.
- Alinio’r Gronfa Gofal Canolraddol a Rhaglenni Newid Datblygiad Clystyrau i greu
newid cyson, system-gyfan ar lawr gwlad.
Llesiant
- Rhoi blaenoriaeth i gymorth i ofalwyr, gan eu galluogi hwy a’r bobl maent yn gofalu
amdanynt i fyw bywydau bodlon ac annibynnol cyhyd ag sy’n bosibl.
- Gwella gwasanaethau pontio’n fwy byth er mwyn hwyluso gwaith cynllunio effeithiol
ar draws gwasanaethau a sicrhau bod pobl ifanc yn dal i gael gofal a chymorth
priodol wrth dyfu’n oedolion ifanc.
Cydgynhyrchu
- Sicrhau bod pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr yn cael eu
cynnwys mewn modd ystyrlon ar bob cam o’r gwaith o gynllunio, darparu ac adolygu
gwasanaethau. Mae angen i hyn ddigwydd ar lefel strategol, gan ymgysylltu â
dinasyddion ynghylch siâp gofal a chymorth yn y dyfodol a’r hyn a ddisgwylir oddi wrth unigolion i hybu eu lleisiant eu hunain ac, yn weithrediadol, sicrhau bod
gwaith asesu a chynllunio gofal yn caniatáu i bobl fynegi canlyniadau personol a
dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch y cymorth mae ei angen er mwyn eu
cyflawni.