Hafan

Cynllun Ardal ac Asesiad Poblogaeth Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru

Mae Adran 14A o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni ddatblygu Cynllun Ardal yn nodi sut y byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion ein hasesiad poblogaeth.

Mae’r Asesiad Poblogaeth hwn yn darparu golwg gyffredinol gynhwysfawr o anghenion gofal a chymorth ledled y rhanbarth. Defnyddiwyd amrywiaeth o ddata ynghylch y rhanbarth a’r awdurdodau lleol i roi darlun cynhwysfawr o’r anghenion o ran gofal a chymorth yn y presennol a’r dyfodol a sut mae’r anghenion yn cael eu diwallu ar hyn o bryd.

Rydym wedi cynhyrchu’r offeryn i wneud ein cynllun ardal ac ein hasesiad poblogaeth yn hawdd ei fynediad mewn fformat cyfeillgar i ddefnyddwyr. Yn y dyfodol bydd yr offeryn yn darparu gwybodaeth am ein cynnydd yn cyflawni ein cynllun. Bydd hefyd yn darparu mynediad i’r set ddata a ddefnyddiwyd yn ein hasesiad poblogaeth er mwyn deall angen lleol a monitro newid.

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn dwyn ynghyd partneriaid o Lywodraeth Leol, y GIG, trydydd sector a’r sector annibynnol ynghyd â defnyddwyr a gofalwyr gyda’r nod o drawsnewid gofal a gwasanaethau cymorth yn y rhanbarth. Darganfyddwch mwy yma
Mae rhanbarth Gorllewin Cymru yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cynnwys ardaloedd cynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.