Mae’r adran hon yn cynnwys amcanion lefel uchel yr eir i’r afael â nhw’n gydweithredol ar ran Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol dros y cyfnod i ddod. Lle bo’n bosibl, darperir dolenni i gynlluniau gweithredu manylach. Gall y cynlluniau manwl hyn newid dros amser a byddwn yn diweddaru ein Cynllun yn rheolaidd i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Lle nad oes cynlluniau manwl yn bodoli ar hyn o bryd, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth pan fydd ar gael. Hefyd darperir amserlenni dangosol ar gyfer cyflawni ein hamcanion, gyda ‘tymor byr’ yn golygu amserlen o 1 i 2 flynedd a ‘tymor canolig’ yn golygu 3 i 5 mlynedd. Unwaith eto, gall yr amserlenni hyn gael eu haddasu dros amser a gellir adleisio unrhyw newidiadau wrth i’r Cynllun gael ei ddiweddaru.