Mae'r holl bartneriaid yn y rhanbarth wedi parhau i symud tuag at fodel cyson o ofal ar gyfer pobl hŷn, yn seiliedig ar egwyddorion llesiant ac atal sydd wedi'u crynhoi yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac wedi'u llywio'n lleol gan ystod o gynlluniau a strategaethau gan gynnwys cynlluniau Heneiddio'n Dda, Cynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd, 'Gweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Bobl Hŷn 2015-25 Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Datganiad o Fwriad rhanbarthol ar gyfer Integreiddio Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn sydd ag Anghenion Cymhleth yng Ngorllewin Cymru (2014).
Mae'r ddarpariaeth ar draws y rhanbarth wedi'i seilio ar dair lefel o wasanaeth, sy'n cynnwys tri 'chynnig' i unigolion yn dibynnu ar eu hanghenion:
Cynnig 1: Cymorth i Helpu eich Hun
Darparu gwasanaethau i feithrin gwydnwch ac annibyniaeth unigolion hŷn, helpu pobl i helpu eu hunain ac atal yr angen am ofal parhaus.
Cynnig 2: Cymorth pan fydd ei angen arnoch
Darparu gofal a chefnogaeth i bobl fel y gallant adennill eu lefel flaenorol o annibyniaeth wedi salwch neu anaf. Yn cynnwys ail-alluogi ac adsefydlu gartref.
Cynnig 3: Cefnogaeth Barhaus
Yn cynnwys gwasanaethau i bobl sydd angen gofal neu gymorth mwy hirdymor. Fel arfer fe'i cyflwynir trwy asesiad integredig, gan ddarparu cymorth proffesiynol amlddisgyblaeth. Mae cynlluniau cymorth gofal yn seiliedig ar y cwestiwn 'Beth sy'n bwysig i chi?' gyda chynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau'n cael eu darparu yn unol â hynny.
Gofal trwy Gymorth Technoleg
Ar hyn o bryd mae amrywiaeth o raglenni gofal trwy gymorth technoleg yn cael eu defnyddio ar draws Gorllewin Cymru. Mae'r rhain yn amrywio o ddefnyddio tele-iechyd i fonitro a chefnogi pobl sydd â chyflyrau cronig fel COPD a methiant y galon, i ddefnyddio teleofal i fonitro ac atal cwympiadau. Gall amrywiaeth o raglenni gofal trwy gymorth technoleg helpu pobl i reoli eu cyflyrau, cynyddu hyder a helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod hirach.
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Mae ystod eang o wybodaeth a chyngor ar gael, er mwyn helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau drwy eu cyfeirio at y cymorth sydd ar gael yn y gymuned.
Trydydd Sector
Mae ystod eang o wasanaethau'r trydydd sector ar gael, sy'n hyrwyddo annibyniaeth, ymgysylltu cymdeithasol a chynhwysiant.
Gofal a Chymorth yn y Cartref
Mae mynediad cyflym at ofal cartref i ddarparu gofal a chymorth pan fydd ei angen, neu yn ystod tymor hir.
Gofal Preswyl a Nyrsio
Mae sawl opsiwn gofal preswyl a nyrsio ar gael ar draws y rhanbarth, o ofal ychwanegol i nyrsio henoed bregus eu meddwl. Ar hyn o bryd mae cyfran sylweddol o'r bobl hŷn sy'n byw yn y lleoliad gofal preswyl yng Ngorllewin Cymru yn ariannu eu lleoliad eu hunain ond efallai y bydd angen cymorth ariannol arnynt yn ddiweddarach.