Er mwyn darparu asesiad o'r gwasanaethau presennol i bennu'r bylchau a'r meysydd i'w gwella, ymgysylltwyd â phobl awtistig, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Yng Ngorllewin Cymru, mae grŵp strategol rhanbarthol o'r holl bartneriaid allweddol yn cyfarfod i oruchwylio'r gwaith o weithredu gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig, gan gynnwys y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS). Mae'r grŵp strategol hwn yn cael ei gadeirio gan y Pennaeth Gwasanaeth sy'n gyfrifol am Awtistiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ym mhob awdurdod lleol mae 'Arweinydd Awtistiaeth', sef person cyswllt enwebedig sy'n gyfrifol am oruchwylio a chydlynu'r gweithgarwch yn ei ardal. Mae hyn yn cynnwys cydlynu grwpiau llywio a rhanddeiliaid lleol (gyda phobl awtistig a'u teuluoedd) yn ogystal â hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymhlith staff.
Mae ein gweithgareddau ymgysylltu wedi bod yn gyfyngedig yn ystod pandemig COVID 19. Fodd bynnag, nodir isod yr ymagwedd y cytunwyd arni ar gyfer y dyfodol.

Mae ymgysylltu drwy'r grwpiau strategol wedi ein galluogi i fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl awtistig yng Ngorllewin Cymru gan gynnwys yr effaith y cafodd pandemig COVID-19 ar eu llesiant a'u hanghenion gofal a chymorth.
Yn ogystal, cynhaliwyd cyfarfod rhithwir gyda 10 o rieni plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan gynnwys awtistiaeth.