Trosolwg a negeseuon allweddol
Mae dros 82,000 o blant a phobl ifanc yn y rhanbarth, tua 22% o'r boblogaeth gyfan. Er y bydd y boblogaeth plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn parhau'n gymharol sefydlog, disgwylir i nifer y plant 10-15 oed yn y rhanbarth ostwng 8% erbyn 2031. Amcangyfrifir bod 6,105 o blant a phobl ifanc yn byw gyda chyflwr neu anabledd hirdymor.
Caiff plant a phobl ifanc eu hystyried o dan y tri grŵp canlynol:
- Hyd at 18 oed
- Hyd at 21 oed os ydynt wedi bod mewn gofal
- Hyd at 25 oed os ydynt wedi bod mewn gofal ac yn dal i fod mewn addysg
Mae gan y rhanbarth nifer is o Blant sy'n Derbyn Gofal na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r sgôr 9 pwynt wedi'i chapio (9 canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru) yn 361.7, sy'n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 353.8.
Ar 14%, mae nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin Cymru ychydig yn is na chyfartaledd Cymru.
Bylchau a meysydd i'w gwella:
Dylid cynnwys y canlynol:
- Integreiddio pellach â gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar
- Cynnwys plant a phobl ifanc, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a'r rheiny ag anghenion cymhleth megis anabledd, wrth gynllunio gwasanaethau.
- Datblygu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar ymhellach, gan adeiladu ar raglenni sefydledig megis Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a Thîm o Amgylch y Teulu a modelau cymorth sy'n ymwybodol o drawma
- Ystyried pwysigrwydd llesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol plant a rôl allweddol gwasanaethau cymunedol wrth gyflawni hyn
- Gwella'r gwaith a wneir mewn partneriaeth i ddarparu dull 'Dim Drws Anghywir' o ymdrin â gwasanaethau fel bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt waeth ble maent yn dod i mewn i'r system.
- Datblygu gwytnwch a llesiant mewn teuluoedd i alluogi plant a phobl ifanc i aros o fewn eu teuluoedd a/neu eu cymunedau cyhyd â'i bod yn ddiogel iddynt wneud hynny
- Parhau i ddatblygu dull aml-asiantaeth ac unigol o gefnogi plant ag anghenion cymhleth
- Datblygu proses ranbarthol o bontio plant a phobl ifanc i'r gwasanaethau oedolion lle bo hynny'n briodol.
Effaith COVID-19:
Effeithiwyd yn sylweddol ar Iechyd Meddwl a Llesiant Plant a Phobl Ifanc yn ystod y pandemig. Mae cau ysgolion, cyfnodau cwarantin, ofn mynd yn sâl a'r effaith ar berthnasau hŷn yn ffactorau sydd wedi cyfrannu at ddirywiad yn eu hiechyd meddwl a'u llesiant.
Yn ogystal, roedd plant a phobl ifanc o ardaloedd o dlodi yn wynebu mwy o risg o Iechyd Meddwl a Llesiant gwael. Roedd y ffactorau oedd yn cyfrannu at hyn yn cynnwys pryder cynyddol am ansicrwydd ariannol rhieni, diffyg cymorth cymdeithasol, ansawdd tai a maeth gwael.
Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi cynnal cyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer plant y nodwyd eu bod mewn perygl drwy gydol y pandemig. Fodd bynnag, mae absenoldebau gorfodol o'r ysgol ac amser gartref wedi peri heriau sylweddol o ran nodi ac ymateb i risg.
Mae'r rhanbarth wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc sy'n ceisio cymorth gydag anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl cymhleth, gan gynnwys ymddygiadau sy'n herio.