Mae ystod o wasanaethau cymorth a gofal ar gael ar draws y rhanbarth i gefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn yn y gymuned.
1. ‘Newid mewn Gweithredu’: Cydgynhyrchu a Chynnwys
Yn dilyn Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2015, mae sylw penodol wedi cael ei roi ar ddatblygu ethos o gydgynyrchu. Mae'r gwasanaethau gofal a chymorth wedi anelu at gynnwys pobl ag anableddau dysgu ym mhob agwedd ar y cynlluniau darparu gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru. Mae'r gwaith o ganolbwyntio ar gydgynhyrchu wedi arwain at bresenoldeb defnyddwyr gwasanaeth ar bwyllgorau megis y RILP a ffurfio’r ‘Dream Team’ a llunio Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru.
Dream Team
Mae'r Dream Team yn gydweithrediad o bobl ac aelodau o elusennau Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ynghyd â chynrychiolwyr o Geredigion. Mae aelodau'r Dream Team yn cynnwys dinasyddion sydd â phrofiad uniongyrchol am fyw ag anableddau dysgu. Grŵp o unigolion sydd ag anableddau dysgu yw'r Dream Team sy'n rhoi cyngor i ddarparwyr gofal ac awdurdodau lleol ynghylch beth sydd wir yn bwysig, i ddwyn y gwasanaethau i gyfrif ac i sicrhau bod yr anghenion gofal a chymorth sydd bwysicaf i bobl ag anabledd dysgu yn cael eu diwallu.
LD Charter (https://www.ldcharter.com/)
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae'r gymuned anableddau dysgu yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi cydweithio i ddatblygu Siarter - rhestr syml yn nodi'r pethau maent yn eu disgwyl a'u hangen i fyw bywydau hapus.
"Mae Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru yn dwyn ynghyd ein hawliau, ein hanghenion a'n dymuniadau mewn dogfen syml sydd wedi'i hanelu at bawb yn ein cymuned. "Rhoir sylw i feysydd hanfodol megis cefnogaeth, iechyd a pherthnasoedd, gan ddod â nhw i gyd at ei gilydd mewn dogfen y gall pawb ymrwymo iddi, ac fe ddylai pawb wneud hynny. "Doeddwn ddim yn siŵr ynghylch defnyddio'r geiriau "rydym yn mynnu" - ond rydyn yn gwneud hynny! Mae ond yn deg ein bod yn mynnu cael ein trin fel pawb arall, cael bywyd cymdeithasol, gwneud pethau sy'n ein bodloni a chael ein trin ag urddas a pharch."
James Dash, Cyd-gadeirydd Grŵp y Rhaglen Anableddau Dysgu
Mae Siarter Anableddau Gorllewin Cymru wedi ei datblygu â chefnogaeth gan Gronfa Gofal Canolraddol Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a Choleg Sir Benfro. Fe'i cefnogir gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r Siarter wedi'i llunio ac yn cael ei harwain gan y Dream Team, pobl ag anableddau dysgu, ac nid gweithwyr proffesiynol, gwasanaethau cymdeithasol neu hyd yn oed elusennau. Mae'r Dream Team hefyd yn ymwneud â dwyn pobl i gyfrif. Maent yn ymweld â busnesau a sefydliadau i ofyn iddynt ymrwymo - ac yn edrych i weld eu bod yn gwireddu eu hymrwymiadau.
Mae’r siarter anableddau dysgu yn sail i’r holl gynllunio a darpariaeth ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu yng Ngorllewin Cymru yn y dyfodol ac mae wedi’i llunio gan bobl ag anableddau dysgu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
2. Gwaith presennol a mentrau pwysig yn Rhanbarth Gorllewin Cymru
Ar y cyd â'r siarter anableddau dysgu a'r dull cydgynhyrchu, mae nifer o fentrau eraill wedi'u rhoi ar waith. Mae'r prosiectau hyn wedi cael buddsoddiad cyfalaf ac maent i gyd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r bylchau a'r anghenion amrywiol a amlinellwyd gan Asesiad o Anghenion y Boblogaeth blaenorol. Bwriad y mentrau hyn yw sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed/gwrando arnynt a sicrhau bod dinasyddion yn gallu cyrchu’r wybodaeth gywir, pan fo’i hangen, yn y ffordd y maent ei heisiau a’i defnyddio i reoli a gwella eu llesiant.
- 2.1 Hyrwyddwyr Gwiriad Iechyd
Pobl ag anableddau dysgu yn cefnogi eu cyfoedion i gael Gwiriadau Iechyd Blynyddol a thrwy hynny leihau anghydraddoldebau iechyd cyffredin.
- 2.2 Apiau tech
Cyd-gynhyrchu atebion digidol hygyrch i systemau papur fel Pasbortau Iechyd a Chynlluniau Gofal a mynediad at gymorth ar-lein arall, megis gwybodaeth teithio.
- 2.3 Prosiect Dychweliad a Dilyniant
Tîm rhithwir yn adolygu lleoliadau gofal preswyl i ddatblygu dewisiadau amgen priodol i ofal sefydliadol hirdymor yn unol ag anghenion unigol a aseswyd.
- 2.4 Prosiect hyfforddiant a chyflogaeth anableddau dysgu rhanbarthol
Cymorth i fynd i'r afael â chyfleoedd cyfyngedig i bobl ag anableddau dysgu i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol neu gyflogedig fel y nodir yn y Strategaethau anableddau dysgu ar draws y rhanbarth, trwy ehangu cynllun peilot llwyddiannus yn Sir Benfro.
- 2.5 Cyfeillion ymarfer
Gwella iechyd a llesiant oedolion ag anabledd dysgu a’u rhieni/gofalwyr, trwy ddatblygu ystod o grwpiau ymarfer a gweithgaredd â chymorth.
- 2.6 Llety â chymorth
Gwella mynediad at lety â chymorth drwy wella polisïau, systemau, prosesau ac ymgysylltu â phartneriaid Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC).
- 2.7 Trawsnewid cyfleoedd dydd
Rhaglen ymgysylltu i ddatblygu model o gyfleoedd dydd yn y dyfodol. Mae'r rhaglen hon wedi'i hanelu at drawsnewid cyfleoedd dydd trwy ddatblygu modelau darparu eraill a threialu ffyrdd newydd o weithio.
- 2.8 Yn ein hanterth
Datblygu partneriaethau, lledaenu gwybodaeth, rhannu profiadau, darparu mecanweithiau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn ag anableddau dysgu yn cael eu clywed ac yn cael ymateb.
- 2.9 Gwasanaeth Ymyriadau Ymddygiad Cadarnhaol Caerfyrddin
Gwasanaethau lleol sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd, i leihau achosion o ymddygiad heriol yr adroddir amdanynt, nifer y lleoliadau sy'n methu a chost uchel lleoliadau y tu allan i'r sir.
- 2.10 Cronfa Arloesi Anableddau Dysgu
Cyfleoedd i dreialu modelau darparu gwasanaeth amgen i gefnogi a grymuso'r rhai ag anableddau dysgu trwy dreialu gwasanaethau arloesol a chyd-gynhyrchu sy'n llenwi bylchau yn y ddarpariaeth.
3. Gwasanaethau Gofal a Chymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae yna drefniant o wasanaethau ac arbenigwyr sy’n helpu i ofalu a chefnogi pobl ag anableddau dysgu, gan gynnwys: Seiciatreg ymgynghorol, seicoleg, nyrsio cymunedol, Therapi Iaith a Lleferydd, Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi. Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau ar gael yn benodol i’r gymuned anableddau dysgu ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i helpu i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r gofal sydd eu hangen arnynt a lleihau unrhyw anghydraddoldebau iechyd. Mae'r rhain yn cynnwys:
- 3.1 Gwasanaeth Tîm Cymunedol Anableddau Dysgu (CTLD)
Mae pedwar gwasanaeth Tîm Cymunedol Anableddau Dysgu ar draws ardal Hywel Dda. Mae'r timau yn gweithio gyda'i gilydd ac yn cynnwys nyrsys anabledd dysgu; therapyddion galwedigaethol; ffisiotherapyddion; therapyddion lleferydd ac iaith; seicolegwyr; seiciatryddion; ymarferwyr ymddygiad; a gweithwyr cymdeithasol. Mae'r timau hefyd yn gweithio yn y gymuned yn cefnogi gofal sylfaenol, meddygon teulu a darparwyr preifat, gan gynnwys cleientiaid mewn byw â chymorth ac unedau preswyl, ynghyd â chefnogi unigolion sy'n byw ar eu pen eu hunain. Mae'r timau hefyd yn rhoi cymorth i ofalwyr, teuluoedd a gwasanaethau dydd.
- 3.2 Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Anabledd Dysgu i oedolion a phlant
Mae'r Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Anabledd Dysgu yn cael ei gynnig i oedolion a phlant ag anableddau dysgu sy'n cael triniaeth ysbyty, neu sydd ar fin cael triniaeth ysbyty, ac efallai y bydd angen cyngor a chymorth arnynt.
- Rhoi hyfforddiant i staff am anghenion pobl ag anabledd dysgu.
- Rhoi cyngor ar ddilyn y llwybr anableddau dysgu a defnyddio’r ‘Care Bundle’
- Cydgysylltu â staff yr ysbyty i sicrhau bod addasiadau rhesymol ar waith
- Rhoi cyngor a chymorth i unigolion a'u gofalwyr yn ystod eu cyfnod yn yr ysbyty.
- Rhoi cymorth i hwyluso cyfathrebu rhwng y claf, gofalwyr a staff yr ysbyty
- 3.3 Clinig Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog/Anghenion Iechyd Cymhleth
Mae clinig newydd ar fin cael ei gomisiynu. Nod y clinig anawsterau dysgu dwys a lluosog/anghenion iechyd cymhleth yw sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog yn cael mynediad at gymorth iechyd cyson o ansawdd uchel gan y Gwasanaeth Anableddau Dysgu. Mae unigolion yn cael eu hadnabod gan aelodau o'r CTLD a'u cyfeirio at y Llwybr PMLD.
Nodau ac amcanion y clinig yw:
- Nodi unigolion y mae angen nifer o weithwyr iechyd sy'n arbenigo mewn anableddau dysgu arnynt
- Cwblhau asesiadau ac adolygiadau cydlynol mewn clinig
- Cwblhau cynllun gofal tîm amlddisgyblaethol i ddiwallu anghenion cymhleth a'i rannu ag uned arbenigol/gofalwyr/teuluoedd
- Nodi ymyriadau sydd eu hangen ac anghenion hyfforddi gofalwyr/teuluoedd
- Cyfeirio at weithwyr proffesiynol eraill yn ôl yr angen
- 3.4 Tîm Cymorth Dwys Anabledd Dysgu (LDIST)
Mae'r Tîm Cymorth Dwys Anabledd Dysgu (LDIST) yn gynllun peilot. Mae'r LDIST yn cynnwys nyrsys anableddau dysgu ac iechyd meddwl a gweithwyr cymorth gofal iechyd i ddarparu cymorth dwys neu ychwanegol i oedolion ag anableddau dysgu yn ystod cyfnod o angen. Mae cymorth ar gael am gyfnod cyfyngedig i helpu i reoli neu oresgyn mater, problem neu newid penodol. Gall y gefnogaeth gynnwys cyngor dros y ffôn, yn unigol, mewn grwpiau, trwy ddulliau arsylwi, asesiadau, trwy gefnogaeth uniongyrchol, triniaeth tymor byr, hyfforddiant i ofalwyr neu drwy gyfarfodydd. Mae'r LDIST yn gweithio'n agos ochr yn ochr â CLDT ac yn darparu cymorth sy'n gofyn am lefel uwch o fewnbwn am gyfnod byr â phenodol. Mae’r LDIST wedi’i leoli yn y gymuned, yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu/eu teuluoedd neu eu darparwyr gofal lle maent fel arfer yn byw i barhau i ddarparu gofal dros y tymor hwy.
Mae’r opsiynau gofal a chymorth penodol yn amrywio ar draws yr Awdurdodau Lleol gwahanol, ac mae manylion penodol ar gael gan y canlynol: Gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd Sir Gaerfyrddin, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro a Thîm Cymunedol Ceredigion ar gyfer pobl ag Anabledd.