Bydd gan bobl sydd â chyflyrau iechyd a/neu anableddau corfforol ystod o anghenion gofal a chymorth, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Yn fras, bydd yr ystod hon yn cwmpasu:
- Anghenion cyffredinol - er enghraifft, gwybodaeth a chyngor, cefnogaeth lefel isel, gwasanaethau ataliol, megis cymorth a chyngor dietegol.
- Anghenion lluosog a chymhleth sy'n gofyn am gymorth aml-asiantaeth wedi'i gydlynu i fynd i'r afael â materion penodol a'u rheoli.
Roedd Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Fyw'n Annibynnol, a gyhoeddwyd yn 2013, yn nodi camau i hyrwyddo cymdeithas gynhwysol sy'n galluogi, i sicrhau bod pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu parhau i fyw'n annibynnol, mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pryd a sut maent ei angen.
Lle bynnag y bo'n bosibl, byddwn yn ceisio "cyd-gynhyrchu" gwasanaethau yng Ngorllewin Cymru. Hynny yw, byddwn ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid gan gynnwys pobl anabl i ddylunio, cyflawni a gwerthuso mentrau newydd.