Dull Ataliol ar gyfer y Boblogaeth Gyfan:
Nid oes ymgyrch a gydlynir yn lleol sy'n mynd i'r afael â dull ataliol ar gyfer y boblogaeth gyfan. Mae angen llunio negeseuon allweddol i ymateb i dueddiadau defnydd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a dangos tystiolaeth o niwed.
Sgrinio ac Ymyriadau Byr mewn gofal sylfaenol:
Mae’r sylfaen dystiolaeth yn nodi’n glir y dylai hyn fod ar waith ar draws lleoliadau gofal sylfaenol ar gyfer pob claf neu o leiaf y rhai sy’n wynebu risg. Ar hyn o bryd nid oes rhaglen sgrinio gydlynol ar waith o fewn gofal sylfaenol.
Triniaeth ac Adfer Mynediad, modelau triniaeth, priodoldeb o ran oedran i dderbyn triniaeth:
Dengys tystiolaeth fod defnyddwyr sylweddau hŷn (40/50 a hŷn yn gyndyn o geisio cymorth gan wasanaethau traddodiadol, oherwydd y model darparu gwasanaeth a phryderon ynghylch stigma wrth gael mynediad at wasanaeth cyffuriau ac alcohol. Mae angen i ni feddwl yn wahanol am ba wasanaethau sy'n cael eu cynnig (nid ar gyfer y grŵp oedran hwn yn unig), ar draws y system iechyd ac mewn gwahanol leoliadau, er mwyn osgoi’r stigma hwn.
Seicoleg a chymorth seicolegol
I oedolion hŷn â phroblemau dibyniaeth ar alcohol.
Seicoleg Diagnosis Deuol / cymorth seicolegol:
Bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer y rhai nad oes ganddynt Salwch Meddwl Difrifol ond sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl sylweddol eraill yn ogystal â phroblemau gyda chyffuriau, alcohol, ac ymddygiadau ffordd o fyw eraill.
Rhagnodi Capasiti:
Mae mynediad cyflym at ragnodi yn ffactor amddiffynnol yn erbyn marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae modelau rhagnodi un diwrnod ar waith mewn rhannau eraill o'r wlad, ac mae amseroedd hirach ar waith yn lleol a Sir Gaerfyrddin yw'r sir yw’r trydydd uchaf o ran marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru. Mae model lleol yn dibynnu ar gapasiti meddygon teulu o ran rhagnodi.
Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau:
Cyfranogiad da gan wasanaethau lleol ond ychydig iawn o gyfranogiad gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn y broses gynllunio.
Dysgu a Gweithredu o ran Lleihau Niwed:
Mae angen adolygiad o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn ogystal â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, ac mae angen i ni sefydlu adolygiadau o farwolaethau nad ydynt yn angheuol.
Tai:
Yn hanfodol i allu unigolyn i wella. Dim ond hyn a hyn o ddewis sydd ar gael yn lleol ac mae polisïau ailddyrannu tai yn aml yn niweidiol i adferiad.