Er 2010 ac ers i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) gael ei gyflwyno, mae'r rhan fwyaf o achosion iechyd meddwl yn cael eu trin ar lefel gofal sylfaenol. Y bwriad yw hyrwyddo ymyrraeth gynnar a lleihau'r tebygolrwydd y bydd eu cyflwr yn gwaethygu a bod angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd pellach.
Gwasanaethau cymorth presennol
Mae anghenion gofal, gwasanaethau a chymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru yn cael eu cydgysylltu gan Wasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC).
Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) a Thimau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC).
Bwriad cyflwyno Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) oedd cynyddu faint o wasanaethau iechyd meddwl ar lefel gofal sylfaenol sydd ar gael a'r defnydd ohonynt, yn ogystal â gwella integreiddio gwasanaethau, a gweithio gyda meddygon teulu a staff practis i ddarparu cymorth a hyfforddiant.
Partneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yw Timau Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) sy'n darparu man cyfeirio ar gyfer y sawl sydd angen mynediad at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol ddyletswydd i asesu unrhyw un sy'n dioddef problemau iechyd meddwl sy'n effeithio ar eu gallu i fyw eu bywydau.
Y Trydydd Sector
Mae'r bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol yn parhau i gomisiynu amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector i gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl megis gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth a chyngor, gweithgareddau, ffyrdd iach o fyw ac amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thenantiaeth a llety â chymorth.
Elusen iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru yw Mind. Mae Mind yn rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy'n cael problem o ran eu hiechyd meddwl. Mae'r elusen hefyd yn ymgyrchu dros wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth. Gwasanaethau Mind sy'n gweithredu yng Ngorllewin Cymru yw Mind Sir Benfro, Mind Sir Gaerfyrddin a Mind Aberystwyth.
Mae sefydliadau trydydd sector eraill sy’n gweithredu yng Ngorllewin Cymru yn cynnwys Hafal, sy’n gweithio gydag unigolion sy’n gwella o broblemau iechyd meddwl, ac sy'n rhoi pwyslais arbennig ar y rhai ag afiechyd meddwl difrifol. Un arall yw FRAME, sy’n rhoi cyfle i tua 80 o bobl yr wythnos ymarfer a hyfforddi sgiliau newydd.
Mae Gweithredu Gorllewin Cymru dros Iechyd Meddwl (WWAMH) yn sefydliad datblygu iechyd meddwl yng Ngorllewin Cymru. Mae’r sefydliad yn darparu ystod o wasanaethau i grwpiau gwirfoddol, gofalwyr ac unigolion sydd angen cymorth ynghylch iechyd meddwl yn rhanbarth Gorllewin Cymru ac mae’n ceisio gwella’r gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Noddfa Min Nos
Mae Noddfa Mis Nos yn rhan o'r gwasanaeth y mae Mind yn ei ddarparu. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i ffurfio i gynnig cymorth i'r rheiny y mae eu hiechyd meddwl mewn perygl o ddirywio y tu allan i oriau swyddfa arferol. Ar hyn o bryd yng Ngorllewin Cymru, mae gwasanaethau Noddfa Min Nos yn Llanelli a Hwlffordd ac mae cynlluniau i gyflwyno'r drydedd Noddfa Min Nos yng Ngheredigion cyn hir. Bydd hyn yn golygu y bydd Noddfa Min Nos ym mhob un o'r tri awdurdod lleol erbyn mis Rhagfyr