Cysylltiadau â rhaglenni eraill
Law yn llaw â’r Cynllun Cyflawni ceir amryw o gynlluniau gweithredu manylach. Cyfeirir atynt yn y Cynllun a darperir dolenni atynt lle maent ar gael. Maent yn cynnwys cynlluniau un asiantaeth a chynlluniau cydweithio. Mae rhai yn statudol, er enghraifft y Strategaeth Ranbarthol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, y Strategaeth Gomisiynu ar gyfer Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol, strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Chynllun Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd.
Bydd cynlluniau penodol a gefnogir drwy raglen ARCH (Cydweithio Rhanbarthol o Blaid Iechyd), megis Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yn Llynnoedd Delta, yn allweddol yn helpu i wireddu’n gweledigaeth o wasanaethau sy’n cyflenwi’r rhanbarth cyfan. Bydd y rhaglen hon, y prosiect adfywio mwyaf erioed yn ne-orllewin Cymru, yn gwella iechyd a lles pobl yn ein rhanbarth ac yn creu hyd at 2000 o swyddi. Mae’r cynigion yn cynnwys:
- Sefydliad Gwyddor Bywyd gyda labordy a lle i glinig, ynghyd â chyfleuster deor ar gyfer busnesau sy’n cychwyn, ymchwil a datblygu
- Canolfan Llesiant yn ymgorffori canolfan chwaraeon a hamdden gyda’r gorau yn y byd
- Canolfan Iechyd Cymunedol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles a chyfleusterau addysg a hyfforddi
- Gwesty Llesiant
- Pentref Byw â Chymorth
Mae’r prosiect uchelgeisiol – lle buddsoddir mwy na £200miliwn – yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Abertawe.
Mae’n brosiect allweddol ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ac mae wedi’i glustnodi i dderbyn £40miliwn fel rhan o gyllid £1.3biliwn y Fargen Ddinesig.
Mae mecanweithiau yn eu lle hefyd i sicrhau cysondeb rhwng ein Cynllun ni a rhaglen waith Cyd-bwyllgor Gofal Iechyd Canolbarth Cymru, Cefnogi Pobl a byrddau diogelu rhanbarthol ar gyfer plant ac oedolion.
Byddwn yn sicrhau bod fersiynau wedi’u diweddaru o’r cynlluniau gweithredu ar gael cyn gynted ag y cânt eu datblygu a’u mabwysiadu. Bydd hyn yn help i sicrhau bod y Cynllun yn parhau’n berthnasol ac yn darparu darlun cyfredol o’r hyn sydd wedi’i gyflawni.
Nesaf