Llywodraethu

Llywodraethu

Fel sy’n ofynnol o dan Ran 9 o’r Ddeddf, bydd Bwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol yn parhau i hybu integreiddio ar draws amryw o feysydd gwasanaethau, sicrhau bod yr asiantaethau sy’n rhan o’r Bartneriaeth yn darparu adnoddau digonol i gynnal y trefniadau partneriaeth, ac annog yr holl bartneriaid i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd i wella’r canlyniadau i bobl. Bydd craffu ar gyflawni’r Cynllun Ardal yn rôl allweddol i Fwrdd y Bartneriaeth Ranbarthol, a gwneud yn siŵr ei fod yn cydweddu â chynlluniau eraill sydd wedi’u sefydlu ar draws y gwahanol asiantaethau.

Mae’r Ddeddf yn galluogi Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol i ddatblygu a chydlynu trefniadau partneriaeth ffurfiol ac anffurfiol i helpu i gyflawni’u blaenoriaethau. Gan gofio hyn, a chan ragweld y ddeddfwriaeth ddisgwyliedig ar Lywodraeth Leol, rydym yn bwriadu sefydlu Cyd-bwyllgor, a gefnogir gan drefniadau craffu rhanbarthol, a fydd yn dod ag uwch gynrychiolwyr o’r tri awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghyd gydag awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â newidiadau i wasanaethau a chyfuno adnoddau. Y nod yw symleiddio’r prosesau penderfynu a chynyddu tryloywder ac atebolrwydd, a bydd y Pwyllgor hefyd yn goruchwylio gweithrediad cytundebau partneriaeth ffurfiol.

Byddwn yn gweithio hefyd i ffurfioli’r cysylltiadau rhwng Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, y tri Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a fforymau statudol eraill fel y Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl a Bwrdd Cynllunio Ardal Dyfed ar Gamddefnyddio Sylweddau.

Nesaf